Roedden ni’n hynod falch o weld Gareth Elis yn dod i'r brig yng Ngwobrau Drama Sain y BBC 2023 ar gyfer ei waith ar ‘Tremolo’ o fewn categori sy’n dathlu perfformiad cyntaf gorau mewn unrhyw ddrama radio neu ddrama sain.
Mae dros flwyddyn wedi mynd heibio bellach ers rhyddhau y ddrama bodlediad ‘Tremolo’. Wedi’i recordio gefn-wrth-gefn yn Gymraeg a Saesneg, dyma ddrama sain addysgol gan gwmni Illumine Theatre, gyda chefnogaeth gennym ni a Wales Gene Park. Mae’r sgript gan y dramodydd Lisa Parry (The Merthyr Stigmatist, The Order of the Object) yn un bwerus sy’n trafod Alzheimer’s Cychwyn Cynnar Teuluol ac yn archwilio’r cwestiwn a ddylid cael profion geneteg ai peidio.
Gareth Elis sy’n chwarae Harri, tra’n ein cyflwyno i ambell i gymeriad arall ar hyd y ffordd wrth adrodd y stori fel monolog. Cyrrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Marc Beeby yng Ngwobrau Drama Sain y BBC eleni oherwydd safon uchel ei berfformiad. Cynhaliwyd y seremoni yn un o ganolfannau’r BBC yn Llundain yr wythnos diwethaf a gyda’r dramodydd Lisa Parry a’r Cyfarwyddwr Zoe Waterman yn gwmni, aeth Gareth draw yno ar gyfer y gwobrau. Braf iawn oedd gweld y wên ar wynebau’r tri wrth i Gareth gael ei gyhoeddi fel yr enillydd. Llongyfarchiadau i Gareth ar ei lwyddiant gan bawb yn Theatr Gen.
Eisiau clywed perfformiad arobryn Gareth Elis? Mae Tremolo ar gael i wrando arno yn Gymraeg ar Spotify, Apple Podcasts ac ein sianel AM.
I ddysgu mwy am Tremolo, ac i weld yr holl gynnwys addysgol, ewch i dudalen Tremolo ar ein gwefan.