Newyddion 17/01/2025

Drama gyntaf Mared Jarman ar y ffordd i theatrau Cymru

Poster image for Byth Bythoedd Amen. Two people are sitting in front of a foil curtain drinking blue cocktails - a woman wearing all black is drinking from the glass, while a man wearing pink grins at her.

Bydd Theatr Cymru yn cychwyn 2025 gyda ffrwydrad o ddrama newydd gan Mared Jarman, Byth Bythoedd Amen. Bydd perfformiadau cyntaf erioed y cynhyrchiad yn digwydd yn Theatr y Sherman o 25 Ionawr ymlaen, gyda thaith ledled Cymru yn dilyn. 

Yn ddinesig, yn ddoniol ac yn dywyll, mae Byth Bythoedd Amen yn archwilio cariad, colled a bywyd fel pobl anabl mewn byd sy’n blaenoriaethu’r brif ffrwd. Mae’r dramodydd Mared Jarman – sydd wedi ennill BAFTA Cymru am ei rhaglen deledu i’r BBC, How This Blind Girl – yn llais newydd a chyffrous i fyd y theatr Gymraeg. Bydd Mared hefyd yn perfformio rôl Lottie yn y cynhyrchiad, ochr yn ochr â’r actor a’r cyflwynydd Paul Davies (Heno). Rhian Blythe sy’n cyfarwyddo’r cynhyrchiad.  

Mae Mared wedi bod yn gweithio dan gomisiwn gyda Theatr Cymru (gynt yn Theatr Genedlaethol Cymru) ers 2020 i ddatblygu’r cynhyrchiad hwn ac mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at rannu’r gwaith gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru: 

"Daeth y syniad am Byth Bythoedd Amen i mi yn ystod y cyfnod clo; cyfnod lle roedd y gymuned anabl yn dioddef yn ofnadwy a nifer o bobl anabl wedi marw. Ro'n i eisiau defnyddio fy llais i ddod â straeon a chymeriadau anabl fel fi a'n ffrindiau i'r llwyfan. Mae wedi bod fel breuddwyd i fynd ar y siwrnai yma o droi'r syniad gwreiddiol yn sgript a nawr gweld y sgript yn troi'n gynhyrchiad, gyda thîm mor anhygoel a thalentog. Dwi methu aros i ddod â'n sioe fach ni i theatrau ar draws Cymru."

Mae Theatr Cymru wedi ymgasglu tîm creadigol cyffrous i lwyfannu’r cynhyrchiad arloesol hwn. Mae’r cynllunydd Livia Jones, sydd eisoes wedi gweithio gyda’r cwmni ar gynyrchiadau Brên. Calon. FiIe Ie IeHa/Ha a Rwan/Nawr, wedi creu set a gwisgoedd arbennig sy’n integreiddio elfennau o fyd Lottie fel person ifanc anabl i’r llwyfan. Garrin Clarke yw’r cynllunydd goleuo, ac Eadyth Crawford yw’r cyfansoddwr a chynllunydd sain. Bydd Marged Sion yn cefnogi’r cynhyrchiad fel Cyfarwyddwr Llais a Jess Williams fel Cyfarwyddwr Symud, gyda Taylor Martin yn ymuno fel Ymgynghorydd Drag. 

Lleisiau a straeon pobl anabl sydd wrth galon y cynhyrchiad hwn – ac felly, mae’r artistiaid Sara Beer, Bridie Doyle-Roberts a Jonny Cotsen o fenter Craidd yn cefnogi’r gwaith fel ymgynghorwyr hygyrchedd. Bydd capsiynau dwyieithog ar gael ym mhob perfformiad, yn ogystal â sain disgrifiad trwy gyfrwng y Gymraeg dan ofal Eilir Gwyn. Bydd Eilir hefyd yn arwain teithiau cyffwrdd cyn pob perfformiad, er mwyn rhoi cyfle i fynychwyr dall a’r rheiny sydd ag amhariad ar y golwg allu archwilio’r set, props a gwisgoedd.

Mae Rhian Blythe – sy’n gweithio fel Cyfarwyddwr Cyswllt i’r cwmni – wedi bod wrth ei bodd yn ystod ymarferion dros yr wythnosau diwethaf: 
“Mae Mared yn ddramodydd eofn, sy’n barod i archwilio cilfachau tywyllaf dynoliaeth, gan ein gorfodi ni i gwestiynu’n rhagfarnau a’n rôl ni o fewn y gymdeithas ddiffygiol yma. Mae’r pwnc yn un dwys ond y driniaeth ohono yn chwareus, ac mae hiwmor yn aml yn tasgu o’r tywyllwch. Ac er mai ymdrin a galar mae’r ddrama, taith tuag at hunan-ddarganfod, gobaith a’r awch i fyw ydy hon mewn gwirionedd, a chariad sy’n llifo trwy’r cwbl. Mae wedi bod yn daith a hanner yn y 'sdafell ymarfer hefyd, a mawr yw fy niolch i Mared, Paul a’r criw i gyd am fod mor agored, a pharod i gymryd naid. Ac am y chwerthin.”
 
Mae Byth Bythoedd Amen yn gychwyn ar flwyddyn fawr i Theatr Cymru, wrth i’r cwmni gyflwyno 6 cynhyrchiad. Mae Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, yn falch iawn o gyflwyno’r ddrama hon fel rhan o’r rhaglen: 
“Dyma ffrwydrad o ddrama newydd gan Mared Jarman, sy’n herio cymdeithas tra’n adrodd stori bwerus a thyner am gariad, galar a sut mae rhywun yn ffindio’i ffordd. Mae ‘na chwerthin, tristwch a gobaith wrth i’n cymeriadau grwydro strydoedd Caerdydd. Mae Byth Bythoedd Amen yn garreg filltir yn y theatr yng Nghymru fel drama o bersbectif anabl gyda chast anabl yn dathlu’r gymuned honno a brwydro ableddiaeth (‘ableism’) ein cymdeithas. Gyda’n Cyfarwyddwr Cyswllt gwych Rhian Blythe yn arwain, dwi’n edrych ymlaen i gynulleidfaoedd brofi gwaith y tîm talentog yma.”

Wrth ddod â’r cynhyrchiad i’r llwyfan, mae Theatr Cymru hefyd wedi gweithio’n agos gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng y ddau sefydliad. Dan arweiniad y cynllunydd a’r cyn-fyfyriwr o’r coleg Livia Jones, mae myfyrwyr o’r coleg wedi creu’r set ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Bydd myfyrwyr hefyd yn mwynhau cyfle i weld elfennau o’r cyfnod technegol a’r ymarferion mewn gwisg.