25/03/2026

Cyhoeddi Te Angladd gan Gruffudd Owen a thaith ryngwladol i Parti Priodas

te angladd

Mae Theatr Cymru yn falch iawn o gyhoeddi Te Angladd gan Gruffudd Owen, dilyniant i’r ddrama hynod lwyddiannus Parti Priodas. Wedi’i chyflwyno gyda chefnogaeth gan Galeri Caernarfon, bydd y ddrama newydd hon yn agor yn Galeri cyn teithio’r wlad yng ngwanwyn 2027, gan ddychwelyd i’r cymeriadau hoffus, sgwennu ffraeth a themâu oesol wnaeth ddifyrru cynulleidfaoedd ledled Cymru yn 2024.

Ochr yn ochr â’r ddrama newydd, mae Theatr Cymru yn falch o gyhoeddi bod Parti Priodas – a enillodd wobr UK Theatre am Ragoriaeth mewn Teithio yn 2024 – yn mynd ar daith ryngwladol fer eleni, gyda pherfformiadau yng Nghanolfan Cymry Llundain ar 27 a 28 Awst ac yng Ngŵyl Cymru Gogledd America (NAFOW) ddechrau mis Medi. Dyma’r perfformiad uniaith Gymraeg cyntaf fel prif ddigwyddiad yr ŵyl arbennig hon yn Springfield, Massachusetts.

Bydd yr actorion gwreiddiol – Mared Llywelyn a Mark Henry-Davies – yn dychwelyd i rannau Lowri ac Idris (a’r holl gymeriadau cofiadwy eraill) ar gyfer atgyfodiad Parti Priodas a’r cynhyrchiad newydd Te Angladd.

Dywedodd y dramodydd Gruffudd Owen:

“Dwi wedi gwirioni’n racs bod Lowri, Idris a holl gymeriadau brith Parti Priodas yn cael mynd am drip i Lundain ac i America bell. Gobeithio y gwnawn nhw fihafio...!

Pan oedd Parti Priodas ar daith drwy Gymru yng ngwanwyn 2024, fe holodd rhywun os oeddwn i’n bwriadu ysgrifennu ‘sîcwyl’ i’r ddrama. Doeddwn i ddim, ond mi wnaeth y cwestiwn blannu hedyn. Mi sylweddolais i’n fuan fod gen i fwy i ddeud am Lowri ac Idris, ac am eu perthynas gymhleth gyda’u bro, gyda’u Cymreictod a gyda’i gilydd. Dwi wrth fy modd mod i’n cael gweithio gyda Theatr Cymru eto ac bod Mared a Mark yn dychwelyd i chwarae Lowri ac Idris...a phawb arall!

Mae Te Angladd yn ddrama gomedi dyner, deifiol a dirdynnol wedi ei lleoli yn Llŷn a Chaerdydd. Dewch yn llu – mi fydd hwn yn angladd i’w gofio!”

Dywedodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru:

“Weithiau mae cymeriadau yn cydio ynoch chi ac mae rhyw deimlad efallai bod mwy i ddweud am eu stori. Dyna sut ro’n i’n teimlo ar ôl teithio Parti Priodas nôl yn 2024 ac felly dwi’n hynod falch ein bod yn dychwelyd at sgwennu arbennig Gruffudd a’r cymeriadau Lowri ac Idris wrth ail-uno’r cast mewn drama newydd - Te Angladd.

Mae’n hanfodol bod Theatr Cymru yn parhau i feithrin a datblygu gwaith newydd Cymraeg – nid yn unig i roi llwyfan i leisiau cyfoes ac archwilio ein byd, ond hefyd i greu cyfleoedd i artistiaid dyfu a herio eu hunain. Fel wnaethon ni gyda Parti Priodas, mae’r daith hon yn gyfle arbennig i ddod â chynhyrchiad theatr at gynulleidfaoedd mor eang â phosib, gan deithio i galon cymunedau ar draws Cymru.

Yn dilyn llwyddiant Romeo a Juliet yn Shakespeare’s Globe y llynedd, ry’n ni’n falch iawn o ddychwelyd i Lundain gyda Parti Priodas a'n perfformiadau cyntaf yng Nghanolfan Cymry Llundain. Ac ar ben hynny, rwy’n hynod falch o’r cyfle i adeiladu ar ein gwaith rhyngwladol diweddar trwy fynd ag un o’n cynyrchiadau i Ŵyl Cymru Gogledd America am y tro cyntaf erioed.”

Wedi’i berfformio’n wreiddiol yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 cyn teithio ledled Cymru yn 2024, mae Parti Priodas yn dilyn hynt a helynt gwesteion priodas ym Mhen Llŷn mewn wledd o ddrama gomedi (“dyma gomedi a oedd yn ddoniol, yn ddeifiol, yn gyfoes, yn boenus o berthnasol o ran ei themâu, yn diddanu ac yn procio'r un pryd” Barn).

Bydd Te Angladd yn ail-gydio yn stori’r prif gymeriadau Lowri ac Idris, gan ddilyn llwybrau bywyd y ddau yn dilyn digwyddiadau’r ddrama gyntaf.