Newyddion 24/01/2024

Ie Ie Ie: Lleisiau Cymry ifanc yn serennu mewn cynhyrchiad newydd

Two young people with dark hair are dressed in school uniform. They are sat opposite each other at a table. A woman kneels down and rests her forearms on the table. She is dressed more formally. Behind them in the background is another group of young people also sat at a table.

Wrth i ymarferion ddechrau ar gyfer cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, mae’r gwaith creadigol wedi bod ar y gweill ers misoedd lawer. Fel rhan o Ie Ie Ie, bydd cynulleidfaoedd yn gweld ffilmiau byrion wedi’u creu ar y cyd â phobl ifanc ledled Cymru yn trafod eu profiadau o berthnasau iach a chyd-synio.

Mae Ie Ie Ie yn dathlu rhamant, perthnasau, a chyd-synio yn eu holl ogoniant; eu blerwch a’u hapusrwydd. Wedi’i addasu i’r Gymraeg gan Lily Beau, mae’r actor a chomedïwr Eleri Morgan yn arwain y sioe dan gyfarwyddyd Juliette Manon – ond lleisiau’r Cymry ifanc fydd yn serennu. Mae Sian Elin James, Cydlynydd Cyfranogi’r cwmni, wedi bod yn arwain adain cyfranogi’r prosiect gan deithio i ysgolion a sefydliadau addysg ledled Cymru i gynnal gweithdai sy’n trafod cwestiynau mawr. Yr ysgolion a’r sefydliadau sy’n rhan o’r prosiect yw Ysgol Bodedern, Ysgol Gwynllyw, Ysgol Penweddig, Ysgol Preseli, a Choleg Penybont.

Trwy gyfres o weithdai, mae’r cyfranwyr wedi trafod eu cusan cyntaf, beth yw ystyr cyd-syniad iddyn nhw, a’u profiadau o ddelio gyda pherthnasau a’r amgylchedd ar-lein. Y canlyniad? Gofod diogel sydd wedi rhoi’r hyder i’r bobl ifanc yma rannu eu profiadau ar gamera. Bydd y cyfweliadau gonest ac amrwd yma – sydd wedi’u ffilmio a’u golygu gan y fideograffydd Dafydd Hughes (Amcan Cymru) – yn rhan annatod o’r sioe, a bydd cynulleidfaoedd ledled y wlad yn dod i ddysgu beth yn union yw barn a phrofiad Cymry ifanc am ramant a’r byd sydd ohoni. 

Mae Miri yn un o’r bobl ifanc sy’n ymddangos yn y fideos:

“Roedd ein trafodaethau yn ystod y sesiynau yn ddifyr ac yn ffordd i ni rannu barn a phrofiadau mewn awyrgylch ddiogel a chefnogol. Roedd cael cyd-weithio gyda pobl o Theatr Genedlaethol Cymru yn brofiad gwerthfawr ac yn brofiad positif, ac rwy’n ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle yma. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld y sioe Ie Ie Ie ac yn teimlo yn falch fy mod yn chwarae rhan yn y cynhyrchiad pwysig yma.”

A woman in a stripey pastel cardigan leans over a table next to a young person wearing a school uniform. A piece of paper is on the table in front of them with writing which reads 'Healthy relationship'

Mae rhai o Ymgynghorwyr Ifanc Theatr Gen hefyd wedi mwynhau’r cyfle i gymryd rhan a siarad am eu profiadau nhw. Grŵp o bobl ifanc frwd rhwng 16 a 25 oed yw’r Ymgynghorwyr Ifanc ac maen nhw’n cynghori staff y cwmni ar eu gwaith cyfranogi, marchnata, datblygu creadigol a chynyrchiadau. Mae Jona Milone, sydd newydd ymuno â’r cynllun, wedi mwynhau’r profiad o gymryd rhan yn Ie Ie Ie:

“Roedd e mor braf i siarad a thrafod am bynciau sy'n anffodus yn cael eu labelu a gweld gan gymdeithas yn ddadleuol ac anaddas - a'r gwirionedd yw, rydym ni gyd yn profi'r pethau yma, ar lefelau gwahanol. Wna'th y profiad yma atgoffa fi bod e'n hollol dderbyniol i sôn am ochrau gwahanol i fywydau ni, a dylen ni siarad am ein profiadau i ddarganfod mwy am ein hunain fel pobl a phrosesu digwyddiadau sy'n digwydd drwy gydol ein bywydau.”

Mae criw o hwyluswyr ac artistiaid hefyd wedi bod yn cadw cwmni i Sian Elin ar hyd a lled Cymru yn cefnogi’r gweithdai – Catrin Mai Edwards, Will Kingshott ac Anna Sherratt. Cewch ddarllen mwy am y tri ohonyn nhw isod.

Dywedodd Sian Elin:

“Mae wedi bod yn fraint o’r mwyaf i fi ac i Theatr Gen weithio gyda phobl ifanc ledled Cymru dros y misoedd diwethaf a hefyd rhoi platfform i artistiaid ifanc talentog gefnogi’r gweithdai. Mae’n bwysig cynnig cyfleoedd i siarad yn agored ac yn gyfforddus am ryw a chyd-synio ac rwy’n ffyddiog ein bod wedi chwalu’r tabŵ o gwmpas y pynciau yma gyda’r gweithdai yma. Mae cydweithio gyda’r cyfranogwyr ifanc wedi rhoi gobaith i fi am y dyfodol – ry’n ni mewn dwylo sâff!”

Two young white blonde women are sat on the floor having a discussion. One is smiling widely, and the other appears mid sentence.

Mae Ie Ie Ie yn addasiad Cymraeg o Yes Yes Yes, sef sioe fyw gan yr artistiaid Karin McCracken ac Eleanor Bishop o Aotearoa / Seland Newydd. Wrth ddatblygu’r cynhyrchiad a gweithio gyda’r cyfranogwyr ifanc ar draws y wlad, mae’r cwmni wedi derbyn hyfforddiant a chefnogaeth ymgynghorol gan y mudiad Brook Cymru, elusen iechyd rhywiol i bobl ifanc. Gallwch ddysgu mwy am waith Brook ar y wefan, brook.org.uk. Hoffai’r cwmni ddiolch o galon i’r holl bobl ifanc a’r athrawon sydd wedi cefnogi’r prosiect – yn ogystal â’r tîm sydd wedi bod yn teithio Cymru ar gyfer y gweithdai a’r ffilmio.