Oes gennych chi syniad am ddrama gomedi fer sy’n haeddu llwyfan?
Mae Theatr Cymru yn chwilio am 4 dramodydd i sgwennu dramâu comedi byrion i’w perfformio yng Nghaffi Maes B yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026. Ry’n ni’n awyddus i glywed gan awduron sy’n byw yng Ngorllewin Cymru, neu sydd â chysylltiadau i’r ardal – ac yn arbennig, unrhyw syniadau sy’n archwilio pobl, llefydd a lleisiau Sir Benfro.
Yn dilyn llwyddiant aruthrol Wrecslam! (2025), Ha/Ha (2024) a Rŵan/Nawr (2023), bydd Wes Wes! yn sicr o ddenu cynulleidfaoedd yn eu cannoedd i Gaffi Maes B ac mae’n gyfle gwych i sgwennwyr weld eu gwaith yn dod yn fyw, p'un a ydych chi wedi ysgrifennu i’r llwyfan o'r blaen neu beidio.
Mae rhaglen Wes Wes! yn cefnogi dramodwyr i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu a dramatwrgol trwy greu dramâu gwreiddiol 10 munud o hyd. Bydd y broses yn cynnwys gweithdai dramatwrgol a dosbarthiadau meistr, cyn cyflwyno’r dramâu gorffenedig mewn cyfres o berfformiadau yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026.
Sut i ymgeisio:
Mae Wes Wes! yn gwahodd ceisiadau gan unrhyw un sy’n ateb y gofynion isod:
- Yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn
- Yn siarad Cymraeg neu’n awyddus i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith
- Yn sgwennwr, artist neu weithiwr llawrydd yn y sector creadigol, sydd â phrofiad neu uchelgais o ysgrifennu comedi ar gyfer y llwyfan
Bydd dau gam i’r broses ymgeisio ar gyfer Wes Wes! Yn gyntaf, bydd cyfnod i artistiaid fynegi diddordeb yn y rhaglen, ynghyd ag enghraifft o’u gwaith ysgrifennu, ac yna byddwn yn gwahodd y rheiny sy’n cyrraedd y rhestr fer i gyflwyno braslun o’i syniad gyda mwy o fanylion a phwt o sgript (gyda thâl).
Cam 1: Mynegi Diddordeb (erbyn 23 Chwefror 2026)
Ffurflen Mynegi Diddordeb: Wes Wes! Ffurflen Mynegi Diddordeb / Expression of Interest Form – Fill in form
I fynegi eich diddordeb mewn bod yn rhan o Wes Wes!, cwblhewch Ffurflen Mynegi Diddordeb yn y Gymraeg drwy Microsoft Forms, neu gallwch gyflwyno cais fideo nad yw’n fwy na 2 funud o hyd at: creu@theatr.com neu drwy WhatsApp ar 07903 842604.
Fel rhan o’r broses, bydd angen i chi gyflwyno enghraifft o’ch sgriptio, a hefyd gyflwyno Ffurflen Monitro Cydraddoldeb.
Dyddiad cau i fynegi diddordeb: 12pm, Dydd Llun 23 Chwefror 2026
Bydd panel yn ystyried y ceisiadau ac yn cytuno ar restr fer o 8 ymgeisydd: mae aelodau’r panel i’w cadarnhau.
Cam 2: Cyflwyno Braslun (rhestr fer yn unig)
Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn clywed oddi wrthym ar 4 Mawrth 2026 gyda gwahoddiad i gyflwyno braslun mwy manwl am ddrama 10 munud o hyd, yn ogystal ag enghraifft o ddeialog.
Byddwn yn darparu ffurflen gais, yn ogystal â manylion ynghylch sut i gyflwyno eich syniad, i’r rhai sy’n cyrraedd y rhestr fer. Byddwn yn cynnig ffi o £50 yr un i aelodau’r rhestr fer wedi iddyn nhw gyflwyno eu brasluniau.
Dyddiad cau i geisiadau llawn: 12pm, 30 Mawrth 2026
Wedi derbyn a thrafod pob un braslun, bydd y panel yn dewis hyd at 4 o’r rhain i gael eu datblygu ymhellach gyda ni. Bydd gwaith terfynol y dramodwyr yma’n cael eu llwyfannu yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026.
Datblygu’r Ddrama Gomedi (artistiaid a benodwyd yn unig)
Yn ystod yr wythnosau canlynol, bydd y dramodwyr llwyddiannus yn mynd ati i weithio ar eu sgriptiau ar gyfer y perfformiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd y broses yn cynnwys gweithdai dramatwrgol a dosbarthiadau meistr.
Bydd y dramodwyr hefyd yn gweithio’n agos gyda chyfarwyddwyr proffesiynol fydd yn eu cynorthwyo a’u harwain trwy’r broses, bob cam o’r ffordd.
Y dyddiadau cyflwyno ar gyfer y drafftiau fydd:
Drafft 1: Dydd Llun, 18 Mai 2026
Drafft 2: Dydd Llun, 15 Mehefin 2026
Drafft terfynol: Dydd Mawrth, 30 Mehefin 2026
Drafft Ymarfer: 13 Gorffennaf 2026
Bydd cyfarfodydd 1 wrth 1 i drafod a rhoi adborth yn cael eu trefnu yn nes at yr amser ac yn ddibynnol ar argaeledd yr unigolion.
Fis Awst, bydd y dramâu 10 munud o hyd yn cael eu llwyfannu am bedair noson yn yr Eisteddfod Genedlaethol mewn cynhyrchiad gan Theatr Cymru. Bydd y dramodwyr yn derbyn ffi o £933.86 yr un am eu gwaith.
Mae’r ddogfen Cwestiynau Cyffredin isod yn cynnwys rhagor o wybodaeth. Ond os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach am y cynllun hwn neu’r broses ymgeisio, mae croeso i chi gysylltu â Fflur Thomas ar fflur.thomas@theatr.com.