Oes gennych chi brofiad mewn cynhyrchu theatr, rheoli llwyfan neu reoli technegol? Ydych chi’n drefnus, yn rhagweithiol ac yn frwd dros greu theatr?
Rydym yn chwilio am Reolwr Cynhyrchu Cynorthwyol i ymuno â’n Hadran Gynhyrchu am gyfnod o 12 mis, gan ddechrau ym mis Tachwedd 2026. Diben y rol yw i gefnogi'r Pennaeth Cynhyrchu tra bod ein Rheolwr Cynhyrchu Cwmni ar gyfnod mamolaeth.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Pennaeth Cynhyrchu a chydweithwyr ar draws y cwmni, gan helpu i gynllunio a chyflwyno cynyrchiadau, cefnogi timau technegol a chreadigol, a chyfrannu at waith cynhyrchu ar brosiectau theatr proffesiynol ar raddfa genedlaethol.
Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd eisoes â rhywfaint o brofiad perthnasol ddatblygu ei ymarfer proffesiynol ymhellach, ehangu ei wybodaeth o brosesau cynhyrchu a magu hyder wrth weithio ar gynyrchiadau cymhleth gyda chefnogaeth tîm profiadol a chefnogol.
Cyflog: £31,500 y flwyddyn
Cyfnod: 12 mis, o fis Tachwedd 2026
Oriau: Llawn amser (37.5 awr yr wythnos)
I wneud cais: Llenwch y ffurflen gais NEU cyflwynwch fideo byr ohonoch chi’ch hun, gan ateb y cwestiynau a nodir ar y ffurflen gais. Bydd angen anfon y ffurflen neu'r fideo at swyddi@theatr.com.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd: Cysylltwch ag Angharad Jones Leefe ar angharad.leefe@theatr.com neu 07903 842554.
Dyddiad cau: 8 Medi 2026, 5pm
Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn 21 Mehefin 2026
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg – ar lafar ac yn ysgrifenedig – yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r cwmni yn cynnig cyfleoedd i ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu hyfforddiant gloywi iaith os ydynt am ddatblygu eu hyder yn eu sgiliau iaith Gymraeg.
Mae fersiwn Saesneg o’r pecyn recriwtio ar gael mewn fformat Microsoft Word er mwyn hwyluso’r defnydd o ddarllenydd sgrin. Gellir dod o hyd i hwn drwy ddilyn y ddolen isod:
Mae gofyn i ymgeiswyr gwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb isod wrth ymgeisio: