Cyfarwyddydd Dan Hyfforddiant (Cymraeg) – Pinocchio
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun 3 Awst Cyfarfod ymgeiswyr y rhestr fer: Dydd Llun 10 Awst Cytundeb: Cyfnod Penodol Cyflog: £3000

Mae Theatr y Sherman, mewn cydweithrediad â Theatr Cymru, yn chwilio am Gyfarwyddydd dan Hyfforddiant sy’n siarad Cymraeg, i weithio ar ein sioe Nadolig hwyliog ar gyfer plant 3-6 oed.

Mae Theatr y Sherman a Theatr Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i gyfarwyddwyr sy’n siarad Cymraeg o bob cefndir i ddatblygu eu crefft, sgiliau a’u hymarfer broffesiynol, tra hefyd yn ehangu eu rhwydweithiau yn y diwydiant a’r gymuned. Mae’r cynllun Cyfarwyddydd Dan Hyfforddiant Sy’n Siarad Cymraeg wedi cael ei greu i gynnig cyfleoedd i gyfarwyddwyr sy’n siarad Cymraeg i gael profiad o gyfarwyddo cynyrchiadau proffesiynol ar lefel y Stiwdio.

Bydd ein Cyfarwyddydd Dan Hyfforddiant yn cyfarwyddo dan hyfforddiant ein Sioe Nadolig ar gyfer 2026 ar gyfer plant 3-6 oed gyda’r nod o gyfarwyddo’r sioe honno yn y dyfodol. Ein Sioe Nadolig ar gyfer plant 3-6 oed yn 2026 fydd fersiwn newydd sbon o Pinocchio gan Jennifer Lunn, wedi’i gyfarwyddo gan Elan Isaac. Pinocchio (a berfformir yn Gymraeg a Saesneg mewn perfformiadau ar wahân) yw’r cyflwyniad perffaith i theatr ar gyfer plant 3-6 oed. Mae’n ail-gyflwyniad llawen, yn llawn cerddoriaeth, chwerthin a llu o gymeriadau annwyl, gyda chast arbennig o actorion-cerddorion.

 

Mae amserlen y cynhyrchiad fel a ganlyn:

Ymarferion yn dechrau: 12 Hyd

Wythnos dechnegol yn Theatr y Sherman: w/c 2 Tach

Perfformiadau cyntaf: 6 & 7 Tach

Taith o amgylch De Cymru (dim aros dros nos): 9 – 20 Tach

Perfformiad cyntaf yn ôl yn Theatr y Sherman: 23 Tach

Perfformiadau gwadd yn Theatr y Sherman: 28 Tach

Perfformiadau olaf yn Theatr y Sherman: 2 Ion

 

I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol at recruitment@shermantheatre.co.uk gan roi gwybod pam mai hwn yw’r swydd iawn i chi ar yr amser iawn, a CV o brofiad blaenorol o gyfarwyddo.