Galwad Agored am Artistiaid, Hwyluswyr a Gweithwyr Llawrydd
Ydych chi’n mwynhau cynnal gweithdai creadigol?
Ydych chi’n frwd dros gwella lles a iechyd meddwl eich hun ac eraill drwy weithgareddau creadigol?
Dewch i ymuno â ni ar ein prosiect lles Ar y Dibyn. Mae Ar y Dibyn yn cynnig cyfle i bobl wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth (boed hynny’n uniongyrchol neu os oes aelod o’ch teulu, ffrind, cymydog neu debyg wedi’u heffeithio) i ddod at ei gilydd a phrosesu profiadau bywyd drwy greadigrwydd. Rydym yn cynnig awyrgylch diogel ac yn herio’r tabŵ o amgylch dibyniaeth yn ogystal â herio’r grêd mai dewis ydi dibyniaeth yn hytrach na dull o oroesi neu bylu poen.
Rydyn ni’n chwilio am unigolion empathetig, sensitif a chreadigol i gynnal gweithdai a phrosiectau dan adain ehangach Ar y Dibyn.
Mae croeso i egin artistiaid. Dan ofal Iola Ynyr, ein harweinydd, gallwch fireinio’ch sgiliau a blodeuo fel artist a hwylusydd.
Darganfyddwch mwy am Theatr Cymru | Ar y Dibyn yma.
MANYLION
Lleoliad: Gogledd Cymru – Gwynedd, Caernarfon, Bangor, Blaenau Ffestiniog, Pwllheli, Ynys Môn neu Wrecsam.
Oed: 18+
Ffi: £200 y sesiwn
Bydd angen i chi fod ar gael i gynnig gweithdai rhwng Ionawr a Rhagfyr 2026.
Mae eisiau eich bod chi’n medru’r Gymraeg ac ry’n ni’n parhau i gefnogi gweithwyr llawrydd a siaradwyr Cymraeg newydd i hybu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
Rydym yn chwilio am bobl sydd wedi eu heffeithio gan ddibyniaeth boed hynny’n uniongyrchol neu anuniongyrchol. Mae croeso i chi gysylltu â Nia Skyrme i drafod hyn ymhellach: nia.skyrme@theatr.com
Er mwyn mynegi diddordeb llenwch y ffurflen hon
Mae’r prosiect yma’n bosibl gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Bwrdd Cynllunio Camddefnyddio Sylweddau Ardal Gogledd Cymru.. Cefnogir y prosiect gan Llenyddiaeth Cymru, Galeri, Caniad, Canolfan celfyddydau Aberystwyth, Gisda, Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Mon, Gwasanaeth Iechyd Cymru, Hwb Bangor.