Sibrwd
Mewn nifer o'n perfformiadau, bydd Sibrwd – ein ap mynediad iaith – ar gael i’ch tywys trwy’r ddrama, os ydych yn siarad Cymraeg yn rhugl neu ddim. Trwy gyfrwng llais yn y glust a thestun ar y sgrin, mae’r ap yn cyfleu yn Saesneg yr hyn sy’n cael ei ddweud ar y llwyfan ac mae ar gael i ddefnyddio ar eich ffonau personol.
Mae fersiwn newydd o’r ap ar gael drwy’r App Store a’r Google Play Store. Bydd angen lawrlwytho’r ap cyn dod i’r perfformiad a dewch a’ch clustffonau gyda chi.
Cyfarwyddiadau sut i ddefnyddio Sibrwd:
Cyn dod i’r perfformiad, bydd angen i chi:
- lawrlwytho’r fersiwn newydd o’r ap o’r App Store neu’r Google Play Store. Bydd angen bod gan eich ffôn system o leiaf iOS 11.0 neu 6.0 (Google).
- gofio dod â’ch clustffonau gyda chi.
Wrth gyrraedd y ganolfan:
- Dewch ychydig yn gynt rhag ofn bod angen unrhyw gefnogaeth arnoch i ddefnyddio’r ap.
- Bydd angen i chi gael manylion wi-fi y ganolfan – bydd y manylion yma ar gael ar y bwrdd Sibrwd ger y Swyddfa Docynnau.
- Agorwch yr ap cyn mynd i mewn i’r awditoriwm, a sganio’r cod QR er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio. Mae’r cod QR yn rhaglen y sioe, sydd ar gael am ddim ger y Swyddfa Docynnau. Bydd ap Sibrwd yn gofyn am ganiatâd i gael mynediad i’ch camera, a bydd angen dangos y cod i’r camera.
- Cofiwch roi eich ffôn ar y gosodiad ‘distaw / silent’.
- Peidiwch â thynnu eich clustffonau o’ch ffôn/tabled yn ystod y perfformiad.
- Rydych chi’n barod i ddefnyddio Sibrwd! Pan fydd y perfformiad yn cychwyn, bydd modd gwrando ar gyfieithiad Saesneg trwy eich clustffonau neu ei ddarllen ar sgrin eich ffôn/tabled.
- Cofiwch gwblhau’r holiadur adborth ar ddiwedd y sioe, i roi gwybod i ni am eich profiad o ddefnyddio Sibrwd.
Cwestiynau Cyffredinol
Oes. Bydd angen i chi ddileu’r hen fersiwn o’ch ffôn//tabled a lawrlwytho’r ap newydd o’r App Store neu Google Play.
Bydd angen sganio’r cod QR sydd yn rhaglen y sioe er mwyn cael mynediad.
Gwiriwch eich cysylltiad wi-fi, mae’n bosib ei fod wedi datgysylltu.