Fy Enw i yw Rachel Corrie

Yn deillio o ddyddiaduron ac e-byst Rachel, dyma ddrama dirdynnol a hynod bersonol sy’n dilyn ei siwrnai o fywyd swbwrbaidd i ganol gwrthdaro Israel-Palestina.

“Alla i ddim â chredu y gall rhywbeth fel hyn ddigwydd yn y byd heb fanllefau o brotest. Mae’n ‘nafu fi, eto, fel mae e wedi fy ‘nafu yn y gorffennol, i weld pa mor ofnadwy y gallwn ganiatáu y byd i fod.”

Mawrth 2003. Lladdwyd Rachel Corrie - ymgyrchydd ifanc o America – gan darw dur Byddin Israel wrth geisio amddiffyn cartref Palestinaidd rhag ei ddymchwel.

Yn deillio o ddyddiaduron Rachel a’i e-byst adre at ei rhieni, dyma ddrama dirdynnol a hynod bersonol sy’n dilyn ei siwrnai o fywyd swbwrbaidd i ganol gwrthdaro Israel-Palestina. Wrth ddisgrifio’r creulondeb a’r dyngarwch mae hi’n ei weld yn Gaza, mae geiriau Rachel mor berthnasol nawr ag erioed ac yn galw arnom ni gyd i weithredu dros heddwch.

Wedi’i gyfarwyddo gan Steffan Donnelly a’i berfformio gan Hannah Daniel, dyma’r tro cyntaf i’r ddrama hon gael ei chyflwyno yn y Gymraeg gyda throsiad newydd gan Menna Elfyn. Mae’r tîm creadigol hefyd yn cynnwys Maariyah Sharjil fel Cynllunydd Set a Gwisgoedd, Kareem Samara fel Cynllunydd Sain ac Elanor Higgins fel Cynllunydd Goleuo. 

Cyd-olygwyd y ddrama wreiddiol Saesneg gan Katharine Viner a’r diweddar Alan Rickman, ac fe’i berfformiwyd am y tro cyntaf yn 2005 yn Theatr y Royal Court yn Llundain. Mae’r ddrama bellach wedi’i pherfformio mewn ugain o wledydd, gan gynnwys Israel, ac wedi’i chyfieithu i ddeuddeg iaith.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig tocynnau rhad i’r dangosiadau yma, er mwyn i gynulleidfaoedd allu gyfrannu at elusennau sy’n cefnogi’r rheiny sydd wedi’u heffeithio gan y rhyfel yn Gaza, os ydyn nhw’n dymuno. 

Gyda chefnogaeth gan Galeri.

Canllaw Oed: 16+

Dyddiadau’r Daith

Cast

Rachel Corrie Hannah Daniel

Tîm Creadigol

Yn deillio o ysgrifau Rachel Corrie

Wedi'i olygu gan Alan Rickman Katharine Viner

Trosiad gan Menna Elfyn

Cyfarwyddwr Steffan Donnelly

Cynllunydd Set a Gwisgoedd Maariyah Sharjil

Cynllunydd Sain Kareem Samara

Cynllunydd Goleuo Elanor Higgins