Wedi’i threfnu gan Lywodraeth Cymru, roedd yr wythnos hon yn gyfle i dynnu sylw at yr ystod eang o gyfleoedd creadigol sydd ar gael, a’r gwerth maent yn eu rhoi i gyflogwyr a dysgwyr ar draws Cymru. Cawsom ni yn Theatr Genedlaethol Cymru hefyd y cyfle i godi ymwybyddiaeth am brentisiaethau yn y celfyddydau yng Nghymru a’r amrywiaeth o swyddi creadigol sydd ar gael.
Hwn oedd yr eildro i ni gefnogi’r dathliadau a rhoi chwyddwydr ar gyfleoedd yn y celfyddydau yn dilyn llwyddiant y flwyddyn flaenorol. Yn 2020, darparwyd cyflwyniad technegol i ysgolion yng Nghymru. O ganlyniad i gyfyngiadau COVID, cynhaliwyd sesiynau 2021 yn rhithiol, ac fe greodd y cwmni gyflwyniad ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg oedd yn rhoi blas o fyd y theatr a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Cafodd bob ysgol uwchradd yng Nghymru fynediad i'r adnodd, sy’n cynnwys capsiynau caeedig yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Yn y cyflwyniad, roedd cyfweliadau gydag Angharad Davies (cyn-Bennaeth Cynhyrchu Theatr Genedlaethol Cymru) a Morgan James (cyn-Brentis Technegol y cwmni), yn ogystal ag esboniad am gyfleoedd yn y diwydiant teledu a ffilm gan Sue Jeffries (Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru) a Zahra Errami, sydd bellach yn newyddiadurwr gydag ITV ar ôl hyfforddi trwy gynllun prentisiaethau Sgil Cymru. Roedd y cfylwyniad hefyd yn cynnwys gweithdy creadigol gyda’r cyfansoddwr a’r cynllunydd sain Dan Lawrence, a ddangosodd sut mae cerddoriaeth a synau’n medru ychwanegu at gynhyrchiad theatr.
Hwn oedd yr ail flwyddyn yn olynol i ni yn Theatr Genedlaethol Cymru gymryd rhan yn Wythnos Prentisiaethau Cymru. Yn 2020, aethom i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ym Maesteg ac Ysgol Gyfun Bryntirion ym Mhenybont-ar-Ogwr i gynnal sesiynau yn cynnig cyfleoedd i’r disgyblion ddysgu am yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol a chlywed am brofiadau o fod yn brentis.
Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy am y sesiynau hynny yn 2020:
Prosiectau Eraill
-
ASHTAR Theatre x Theatr Cymru
Fel rhan o brosiect rhwng ASHTAR Theatre a Theatr Cymru, mae pobl ifanc rhwng 16 a 25 o Balestina a Chymru yn cymryd rhan mewn prosiect newydd draws-ddiwylliannol.
-
Murlun Ysgol Bro Pedr
Cafodd disgyblion Ysgol Bro Pedr y cyfle i greu murlun wedi'i ysbrydoli gan yr ardal leol gyda'r artist Siôn Tomos Owen...
-
Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
Prosiect arbennig ddaeth a dwy genhedlaeth o ddysgwyr Cymraeg o orllewin Cymru ynghyd