O 8-14 Mawrth 2021, cawsom gyfle i gymryd rhan mewn dathliad cenedlaethol o wahanol genedlaethau’n dod at ei gilydd. Ymgyrch ar-lein yw hon oedd, ar y pryd, yn ei hail flwyddyn, ac yn cysylltu rhai ledled y DU sy’n teimlo’n angerddol dros weithgaredd ac ysbrydoliaeth rhwng y cenedlaethau.
Roedden ni yn Theatr Genedlaethol Cymru ynghyd â Theatr Torch a Dysgu Cymraeg Sir Benfro yn hynod o falch o gael tynnu at ei gilydd ddwy genhedlaeth o ddysgwyr Cymraeg o orllewin Cymru: disgyblion o Ysgol Gatholig Sant Ffransis, Aberdaugleddau a Dysgwyr Cymraeg sy’n aelodau o Gôr Dysgu Cymraeg Sir Benfro.
Trwy greu gweithdai drama ar gyfer y disgyblion yn Ysgol Gatholig Sant Ffransis, cafodd y plant gyfle i ddysgu am Dewi Sant er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Cynhaliwyd gweithdy drama hefyd gyda Dysgu Cymraeg Sir yn dilyn y camau a’r canllawiau a'u cynigwyd gan y plant yn Ysgol Gatholig Sant Ffransis. Mae addysg sy’n pontio’r cenedlaethau yn cynnig modd i bobl o bob oedran ddysgu gyda’i gilydd ac oddi wrth ei gilydd. Fel rhan bwysig o Ddysgu Gydol Oes, mae’n rhoi cyfle i’r gwahanol genedlaethau weithio gyda’i gilydd i ennill sgiliau, gwerthoedd a gwybodaeth gwerthfawr.
Prosiectau Eraill
-
ASHTAR Theatre x Theatr Cymru
Mae ASHTAR Theatre a Theatr Cymru - gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru - yn chwilio am gyfranogwyr ifanc rhwng 16 a 25 o Balestina a Chymru i gymryd rhan mewn prosiect newydd draws-ddiwylliannol.
-
Murlun Ysgol Bro Pedr
Cafodd disgyblion Ysgol Bro Pedr y cyfle i greu murlun wedi'i ysbrydoli gan yr ardal leol gyda'r artist Siôn Tomos Owen...
-
Connect Up
Mae Theatr Genedlaethol Cymru – ochr yn ochr â Galactig – yn falch iawn o fod yn bartner technegol ar brosiect Connect Up.