Drama bodlediad yw Tremolo wedi’i chynhyrchu gan Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Geneteg Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg. Wedi’i hysgrifennu gan y dramodydd Lisa Parry, mae’r podlediad pwerus hwn yn rhoi mewnwelediad clir i’r cwestiwn a ddylid cael profion geneteg ai peidio, a sut mae un teulu’n ymdopi â’r diagnosis allai fod yn cuddio yn eu genynnau.
Meddai Lisa Parry; “Mae teuluoedd ledled ein cymunedau’n gorfod gwneud penderfyniadau tebyg i’r rhai mae ‘Harri’, sef prif gymeriad y ddrama (sydd yn ei arddegau), a’i deulu, yn gorfod eu gwneud ond anaml iawn rydyn ni’n clywed amdanyn nhw. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd Tremolo yn helpu teuluoedd sy’n ystyried opsiynau profion geneteg, ac yn gwneud y broses o ddeall y dewisiadau hyn yn fwy hygyrch i’r cyhoedd yn gyffredinol.”
Wedi ei at gynulleidfaoedd 16+ oed, cyflwynir Tremolo trwy lygaid Harri, bachgen gofalgar yn ei arddegau. Fel llawer o bobl ifanc sydd newydd gwblhau eu harholiadau Lefel A, mae Harri’n edrych ymlaen yn llawn cyffro at y dyfodol: teithio Ewrop ar drên gyda’i ffrind, yna mynd i’r brifysgol i ddilyn ei freuddwyd o fod yn lawfeddyg-niwro. Ond, ar amrantiad, mae ei fyd cael ei droi ben i waered pan gaiff ei fam ddiagnosis o eFAD – Alzheimer cychwyn cynnar Teuluol. O ran geneteg, mae siawns 50% y gall ef a Gwenllian, ei chwaer iau, ddatblygu'r cyflwr yn y dyfodol.