Yn galw pobl ifanc ym Mhalestina a Chymru! 

Mae Theatr Ashtar a Theatr Gen yn chwilio am gyfranogwyr ifanc rhwng 16 a 25 o Balestina a Chymru i gymryd rhan mewn prosiect newydd rhyng-ddiwylliannol.

Yn defnyddio grym barddoniaeth a theatr fel ieithoedd fyd-eang, bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai ar-lein, gyda’r bwriad o ddenu sylw i leisiau ieuenctid a meithrin dealltwriaeth rhyng-ddiwylliannol. Arweinir y gweithdai gan Sian Elin James, ein Cydlynydd Cyfranogi yn Theatr Gen, a Konrad Suder Chatterjee, Swyddog Cyfathrebu a Datblygwr Adnoddau i Theatr Ashtar, gydag artistiaid / beirdd o Balestina a Chymru yn arwain rhai o'r gweithdai. 

Gyda chefnogaeth hefyd gan Llenyddiaeth Cymru, penllanw’r prosiect fydd creu cerdd tair-ieithog mewn Arabeg, Cymraeg a Saesneg, yn ogystal â ffilm fer sy’n cynnwys cyfranogwyr ifanc o Gymru a Phalesteina. Bydd cyfle i chi fod yn rhan o'r ffilmio - dyddiadau i'w cadarnhau. 

Bydd y gweithdai wythnosol yn dechrau ar 12 Hydref 2024 ac yn digwydd ar ddyddiau Sadwrn, 10am - 12pm i gyfranogwyr o Gymru a 12pm - 2pm i gyfranogwyr o Balesteina. Mae croeso cynnes i bawb - hyd yn oed os nad ydych yn gallu mynychu pob sesiwn. 

I gofrestru, cwblhewch y ffurflen isod erbyn 1 Hydref 2024.

Cwestiynau Cyffredin 

Beth yw nod y prosiect?
Nod y prosiect yw cynnig cyfleoedd i bobl ifanc o Balesteina a Chymru i ymgymryd â chyfnewid diwylliannol, deialog a chydweithio ystyrlon. Bydd y gweithdai yn grymuso cyfranogwyr ifanc i rannu eu straeon (os ydyn nhw eisiau) a safbwyntiau, wrth hefyd ddatblygu su sgiliau artistig a hyder. 

Pryd fydd y prosiect yn dechrau?
Bydd y prosiect yn dechrau ar 12 Hydref ac yn cynnwys sesiynau wythnosol ar 3 ddydd Sadwrn yn olynnol. Bydd wythnos o doriad ar gyfer hanner tymor a byddwn wedyn yn ail-ddechrau gyda dau sesiwn ychwanegol i gwblhau'r prosiect. 

Faint sydd angen i gyfranogwyr dalu?
Mae'r prosiect am ddim i gyfranogwyr. 

Does dim profiad creadigol gyda fi. Ydw i'n gallu cymryd rhan?
Wrth gwrs. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol i gymryd rhan. Mae croeso cynnes i bawb.

Sut byddwch chi'n gwarchod cyfranogwyr?
Mae'r prosiect hwn yn dathlu mynegiadau artistig pobl ifanc ym Mhalesteina a Chymru ond hefyd yn cydnabod yr heriau mawr o wrthdaro a dadleoli sy'n wynebu'r cyfranogwyr o Balesteina. Bydd Theatr Ashtar a Theatr Genedlaethol Cymru yn meithrin awyrgylch cefnogol ac yn creu gofod diogel i'r holl gyfranogwyr rannu eu teimladau. Bydd hyn yn cynnwys sesiwn agoriadol i'r grwpiau sy'n esbonio'r prosesau diogelu a'r camau y byddwn yn cymryd i amddiffyn lles y cyfranogwyr. Bydd y sefydliadau yn cynnal sesiynau di-briff reolaidd, gan drafod unrhyw bryderon diogelu sy'n codi. 

Sut ydw i'n cofrestru? 
Os hoffech gymryd rhan yn y prosiect, defnyddiwch y ffurflen yma i ymgeisio.