Gorffennaf 2022: mae’r Swyddfa Tywydd yn mesur y tymheredd uchaf erioed yn y Deyrnas Unedig.
40°C.
Mae Prosiect 40°C yn brosiect hirdymor ac uchelgeisiol gan Theatr Genedlaethol Cymru sy’n ymateb i’r foment dyngedfennol yma yn yr argyfwng hinsawdd.
Wrth i ni frwydro am blaned well i genedlaethau’r dyfodol, mae’n rhaid i ni herio’r hen ffyrdd o ymateb i drychinebau byd natur. Mae’n rhaid i ni edrych y tu hwnt i’r brif ffrwd, gan wreiddio ein syniadau yng ngwirioneddau cyfoes Cymru - yn ein tir a’n cymunedau amrywiol.
Y cwestiwn mawr? Sut gall cyfrwng theatr byw ehangu ein dealltwriaeth o’r argyfwng hinsawdd, i’w deall nid fel rhywbeth sy’n bodoli mewn gwlad neu oes bell, ond fel rhan annatod o fywyd yng Nghymru heddiw?
Cyfnod Preswyl Gwreiddioli
28 – 31 Awst 2023
Fis Awst 2023, cychwynodd Prosiect 40°C gyda chyfnod preswyl Gwreiddioli, gyda chefnogaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Dan ofal yr artist arweiniol a’r curadur Dylan Huw, daeth 5 artist at ei gilydd yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth i wrando, herio, cyd-ddychmygu a datblygu syniadau creadigol.
Gair gwneud yw “gwreiddioli” sy’n disgrifio’r broses o gynhyrchu syniadau gwreiddiol gydag ethos o wreiddio dwfn: yn ein tir, ein hanes a’n cymuned.
Yn ystod 4 diwrnod y cyfnod preswyl, cafodd yr artistiaid - Leo Drayton, Richard Huw Morgan, Steffan Phillips, clare e. potter a Talulah Thomas - eu sbarduno i ystyried safbwyntiau amrywiol ar groestoriadau’r argyfwng hinsawdd gyda phob dim arall sy’n diffinio bywyd heddiw.
Prosiectau Eraill
-
ASHTAR Theatre x Theatr Cymru
Fel rhan o brosiect rhwng ASHTAR Theatre a Theatr Cymru, mae pobl ifanc rhwng 16 a 25 o Balestina a Chymru yn cymryd rhan mewn prosiect newydd draws-ddiwylliannol.
-
Murlun Ysgol Bro Pedr
Cafodd disgyblion Ysgol Bro Pedr y cyfle i greu murlun wedi'i ysbrydoli gan yr ardal leol gyda'r artist Siôn Tomos Owen...
-
Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
Prosiect arbennig ddaeth a dwy genhedlaeth o ddysgwyr Cymraeg o orllewin Cymru ynghyd