Yn 2022, roedd disgyblion pedair ysgol uwchradd yn rhan o’r prosiect, sef Ysgol Bro Pedr, Criw Hwb Ysgol Tryfan Bangor, disgyblion Sgiliau Bywyd Ysgol Penweddig Aberystwyth a chriw o Ysgol Plasmawr, Caerdydd.
Hwn oedd y tro cyntaf i nifer o’r disgyblion gael y cyfle i gydweithio gydag artistiaid a pherfformwyr proffesiynol. Cafwyd gweithdai drama gan Sian Elin, ein Cydlynydd Cyfranogi. Daeth Casi Wyn, Bardd Plant Cymru, i gydweithio â’r disgyblion a chreu darnau gwreiddiol o farddoniaeth, diolch i Lenyddiaeth Cymru. Cafwyd gweithdai animeiddio gyda Sioned Medi Evans o gwmni SMEI ac hefyd recordio cerddoriaeth gyda cherddorion a swyddogion gwych yr Urdd, Marged Gwenllian, Osian Rhys, Caryl Griffiths, Seimon Thomas a Lewys Wyn Jones.