Prosiect cenedlaethol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yw Criw Creu sy’n cael ei arwain gan Theatr Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan Llenyddiaeth Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.
Yn 2022, roedd disgyblion pedair ysgol uwchradd yn rhan o’r prosiect, sef Ysgol Bro Pedr, Criw Hwb Ysgol Tryfan Bangor, disgyblion Sgiliau Bywyd Ysgol Penweddig Aberystwyth a chriw o Ysgol Plasmawr, Caerdydd.
Hwn oedd y tro cyntaf i nifer o’r disgyblion gael y cyfle i gydweithio gydag artistiaid a pherfformwyr proffesiynol. Cafwyd gweithdai drama gan Sian Elin, ein Cydlynydd Cyfranogi. Daeth Casi Wyn, Bardd Plant Cymru, i gydweithio â’r disgyblion a chreu darnau gwreiddiol o farddoniaeth, diolch i Lenyddiaeth Cymru. Cafwyd gweithdai animeiddio gyda Sioned Medi Evans o gwmni SMEI ac hefyd recordio cerddoriaeth gyda cherddorion a swyddogion gwych yr Urdd, Marged Gwenllian, Osian Rhys, Caryl Griffiths, Seimon Thomas a Lewys Wyn Jones.