Mae Connect Up yn fenter ddiwylliannol ryngwladol sy’n dod â theatrau, gwyliau a phrifysgolion o 10 gwlad ynghyd i fynd i’r afael â’r her o ehangu cynulleidfaoedd gan sicrhau bod cynyrchiadau theatr yn cyrraedd ac yn berthnasol i bobl ifanc a chymunedau sydd wedi eu tan-gynrychioli. O Awstria i’r Eidal, Croatia i‘r Almaen, bydd 29 o gynyrchiadau theatr i bobl ifanc yn cael eu datblygu a’u cyflwyno mewn 22 o wyliau neu theatrau – ac mae’r cyfan wedi ei anelu’n bennaf at bobl ifanc 12+ oed.
Fel rhan o’r prosiect hwn, datblygwyd ein ap mynediad iaith, Sibrwd, ymhellach fel adnodd ar gyfer cyfieithu, marchnata a gwerthuso, ac ehangu mynediad (o ran hygyrchedd) a chynnig cynnwys artistig ychwanegol ar gyfer cynyrchiadau mewn nifer fawr o ieithoedd ledled Ewrop. Mae’r ap yn cael ei adnabod fel Connect App yng nghyd-destun y prosiect hwn.
Cewch ragor o wybodaeth ar y wefan, connect-up.eu
Cefnogir y prosiect gan Raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd.

Prosiectau Eraill
-
Ar y Dibyn
Mae prosiect Ar y Dibyn yn rhoi cyfle i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ddibyniaeth – boed hynny’n bobl sy’n byw gyda dibyniaeth neu sy’n cefnogi pobl eraill gyda’u dibyniaeth – i ddod at ei gilydd a rhannu’r straeon hynny mewn ffyrdd creadigol.
-
ASHTAR Theatre x Theatr Cymru
Fel rhan o brosiect rhwng ASHTAR Theatre a Theatr Cymru, mae pobl ifanc rhwng 16 a 25 o Balestina a Chymru yn cymryd rhan mewn prosiect newydd draws-ddiwylliannol.
-
Criw Creu '24
Daeth Criw Creu yn ôl eto yn 2024!