Mae Theatr Gen yn falch iawn o fod yn rhan o Chwilio’r Chwedl, ar y cyd ag Eisteddfod yr Urdd. Bydd canlyniad y prosiect - Chwilio’r Chwedl – yn cael ei berfformio ar faes Eisteddfod yr Urdd ar 28 Mai, gyda disgyblion ysgol gynradd Sir Gâr yn perfformio fel rhan o’r digwyddiad.
Fel rhan o’r prosiect, comisiynodd Theatr Gen chwech dramodydd ifanc i gyfansoddi sgriptiau deg munud o hyd yn seiliedig ar chwedl neu stori o ardal Sir Gâr.
Dyma’r dramodwyr oedd yn rhan o’r prosiect, yn ogystal â’r straeon oedd wedi’u hysbrydoli:
Del Evans (Merched Beca)
Martha Ifan (Gwenllian Cydweli)
Mirain Jones (Twm Sion Cati)
Mared Roberts (Drefach Felindre)
Hefin Robinson (Yr Hen Dderwen a Dewin Myrddin)
Rhiannon Williams (Gwiber Emlyn)
Fel rhan o’r prosiect, cafodd y dramodwyr fentoraethgan ddramatwrg proffesiynol – Sarah Bickerton - er mwyn cael cyfleoedd datblygu a chynyddu dealltwriaeth yn y maes. Bydd sgriptiau’r dramodwyr ifanc uchod ymysg gwaith gan nifer o ddramodwyr eraill, yn cynnwys Fflur Dafydd, a Carys Edwards yw’r cyfarwyddwr fydd yn dod â’r cyfanwaith at ei gilydd gyda’r disgyblion ar gyfer wythnos Eisteddfod yr Urdd.
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd disgyblion ifanc o ysgolion cynradd ledled Sir Gâr yn perfformio gwaith gorffenedig y dramodwyr ar y maes. I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i wefan Eisteddfod yr Urdd: Chwilio'r Chwedl | Urdd Gobaith Cymru
Prosiectau Eraill
-
ASHTAR Theatre x Theatr Cymru
Mae ASHTAR Theatre a Theatr Cymru - gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru - yn chwilio am gyfranogwyr ifanc rhwng 16 a 25 o Balestina a Chymru i gymryd rhan mewn prosiect newydd draws-ddiwylliannol.
-
Murlun Ysgol Bro Pedr
Cafodd disgyblion Ysgol Bro Pedr y cyfle i greu murlun wedi'i ysbrydoli gan yr ardal leol gyda'r artist Siôn Tomos Owen...
-
Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
Prosiect arbennig ddaeth a dwy genhedlaeth o ddysgwyr Cymraeg o orllewin Cymru ynghyd