Rhoddodd y Bwrsari Datblygu Syniad gyfle i artistiaid yn uniaethu â nodweddion penodol ac a'u tangynrychioliwyd yn ein gwaith i ddechrau datblygu syniad ar gyfer drama neu gynhyrchiad theatr newydd gyda chefnogaeth y cwmni. Roedd yn gyfle i ni ddod i adnabod a rhoi cyfleoedd i artistiaid oedd yn newydd i’r cwmni, ac i adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru yn well yn ein gwaith.
Ceir mwy o wybodaeth am yr artistiaid a dderbyniodd y bwrsari isod:
Mared Jarman
Fel rhan o’r bwrsari hwn, gweithiodd Mared ar gomedi drasig am berthynas dau ffrind gorau sy’n ceisio darganfod a deall eu hunaniaeth fel pobl ifanc anabl mewn byd sy’n addoli a blaenoriaethu’r brif ffrwd.
Mae Mared Jarman yn actores ac awdur o Gaerdydd. Yn ddiweddar, graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gydag MA mewn actio. Derbyniodd ysgoloriaeth a chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru. Mae Mared yn aelod sefydlol o’r cwmni celfyddydol UCAN Productions, sydd wedi ennill sawl gwobr am eu gwaith theatr gyda phlant a phobl ifanc â nam ar eu golwg. Derbyniodd Mared ddiagnosis o’r cyflwr Stargadt’s pan oedd yn ddeg oed. Fel artist ac awdur, mae hi’n ymdrechu i ‘normaleiddio’ anabledd o fewn ein cymdeithas a rhoi platfform i’r lleisiau coll hynny sy’n haeddu cael eu clywed. Mae ei gwaith theatr yn cynnwys: Double Vision (Gagglebabble mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru ar gyfer Gŵyl y Llais 2018); Theatr Unnos (Neontopia a Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2018); Bachu (Melangell Dolma, Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd, mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru).
Creodd y ffilm fer Cardiff, I Love You gyda’r BBC a Ffilm Cymru Wales, ac roedd hi'n actio ar y rhaglen Yr Amgueddfa, cyfres Fflur Dafydd a BOOM Cymru i S4C.
Bev Lennon
Fel rhan o’r bwrsari hwn, bu Bev yn datblygu drama am gwpwl rhyngdras (interracial) a’u siwrnai hunan-holi ynglŷn â pherthnasau, hil a hunaniaeth.
Magwyd Bev Lennon yn Llundain ar aelwyd Garibïaidd. Treuliodd gyfnod fel perfformiwr comedi, ac ym 1987 symudodd i’r Barri, lle dysgodd Gymraeg. Roedd hi’n ddysgwr ar Catchphrase (BBC Radio Wales) cyn cael ei sioe ei hun, Bev (BBC Radio Cymru). Daeth yn Athrawes Gymraeg a Swyddog Cydraddoldeb ym 1997. Mae ei gwaith ysgrifennu yn cynnwys sgets comedi teledu i The Real McCoy (BBC), a cherdd ‘The Consultation’ yn y gyfrol Allan o’r Golwg (Disability Arts Cymru). Cafodd ei derbyn i Orsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2019.
Yn 2020, derbyniodd gyfraniad o Gronfa Gymorth Llenyddiaeth Cymru er mwyn helpu iddi barhau i ysgrifennu ei llyfr ei hun. Hoffai ddatblygu ei gwaith fel sgriptiwr.
Ifan Pleming
Fel rhan o’r bwrsari hwn, datblygodd Ifan ddarn yn edrych ar anabledd mewn ffordd ysgafn a dychanol sy’n adlewyrchu ei ffordd ef, fel unigolyn anabl, o edrych ar y stereoteipio sy’n digwydd yn ein cymdeithas mewn perthynas ag anableddau. Ar ôl derbyn addysg yn Ysgol Pentreuchaf, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, a Choleg Meirion Dwyfor, symudodd Ifan i Gaerdydd yn 2005 i astudio’r Gymraeg a’r Gyfraith, cyn mynd ymlaen i dderbyn gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol. Bu’n aelod o dîm Aberhafren ar Dalwrn y Beirdd am rai blynyddoedd. Mae wedi cael llwyddiant mewn eisteddfodau lleol ac ennill gwobrau yn Eisteddfod yr Urdd, yn cynnwys tlws Jennie Eirian, a chipio’r Goron yn yr Eisteddfod Ryng-golegol. Mae bellach yn byw yn ôl yn Llithfaen, ei bentref genedigol, ac yn gweithio fel cyfieithydd i Lywodraeth Cymru.
Emma Daman Thomas
Fel rhan o’r bwrsari hwn, cafodd Emma y cyfle i ddatblygu gwaith newydd i’w berfformio a oedd yn cysylltu cerddoriaeth, iaith a phrofiad diasporig. Mae Emma Daman Thomas yn artist a pherfformiwr aml-ddisgyblaethol sy’n byw yn Sir Faesyfed. Mae hi’n un o aelodau gwreiddiol y band cydweithredol Islet, lle mae’n canu gwahanol offerynau ac yn canu. Rhyddhawyd trydedd albwm y band ‘Eyelet’ yn 2020 ar label Fire Records. Mae ei gwaith theatr blaenorol yn cynnwys perfformio fel actor-canwr ar gyfer Candylion (NTW, 2015) ac Enough is Enough gan Be Aware Productions (2016); a gwaith ymchwil ar gyfer Sisters gan NTW (2017), a oedd yn archwilio hunaniaethau a phrofiadau menywod De Asia yn India ac yng Nghymru. Ymhlith y prosiectau eraill mae wedi gweithio arnynt y mae cyfansoddiad cerddorol arbrofol a'i gefnogwyd gan Tŷ Cerdd, a cherddoriaeth ar gyfer Freya Dooley mewn arddangosfa Jerwood Arts. Mae Emma hefyd yn creu gwaith celf ar gyfer cerddoriaeth ac mae ei gwaith gweledol yn plethu drwy ei cherddoriaeth, sain, a’i gwaith perfformio. Mae hi’n dysgu siarad Cymraeg ac yn cael gwersi canu’r delyn.
Kallum Weyman
Gyda chefnogaeth y bwrsari, bu Kallum yn gweithio ar ddrama hunllef ddirfodol, ôl-apocalyptaidd. Mae Kallum Weyman yn ddramodydd a chyfarwyddwr anneuaidd, awtistig. Ar hyn o bryd, maen nhw’n astudio cwrs Meistr trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes cyfarwyddo theatr gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ysgrifennodd Kallum eu drama ddiweddar, Train Track Issues, dros y flwyddyn ddiwethaf fel rhan o Gynllun Egin Awduron The Other Room. Cymraeg yw ail iaith Kallum ac felly maen nhw’n edrych ymlaen at y cyfle i wella eu hysgrifennu yn y Gymraeg. Maen nhw’n mwynhau gweithio ym mhob cyfrwng creadigol ac yn ceisio ysgrifennu darnau hollol wahanol ar gyfer pob prosiect maen nhw’n gweithio arnynt.
Dr Sara Louise Wheeler
Fel rhan o’r bwrsari hwn, bu Sara yn gweithio ar Opera Bildungsroman o’r enw ‘Y Dywysoges Arian’, am gymeriad o’r enw Glesni, sy’n dysgu byw yn ei chroen wrth i’r croen hwnnw trawsffurfio, wrth i bopeth newid, ac wrth iddi ddisgyn rhwng dwy stôl: y byd clywedol a’r byd Byddar.
Mae gan Dr Sara Louise Wheeler Syndrom Waardenburg Math 1, sef cyflwr genetig prin sy’n effeithio ar ymddangosiad corfforol a’r clyw. Mae Sara'n archwilio ei phrofiadau corfforedig, a’u goblygiadau cymdeithasol, gwleidyddol a meddygol, trwy nifer o gyfryngau ysgolheigaidd a chreadigol, gan gynnwys barddoniaeth, ysgrifau, a gwaith celf. Mae ei hymchwil yn cynnwys meistroli’r gynghanedd a barddoniaeth arwyddiaith; rhan allweddol o ddatblygu ‘Y Dywysoges Arian’.
Yn 2020, sefydlodd Sara ‘Gwasg y Gororau’ a chyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o gerddi ‘Rwdlan a Bwhwman’, sydd bellach ar gael i’w lawr-lwytho am ddim o wefan Gwasg y Gororau.
Bwrsari Datblygu Syniad
Prosiectau Eraill
-
ASHTAR Theatre x Theatr Cymru
Fel rhan o brosiect rhwng ASHTAR Theatre a Theatr Cymru, mae pobl ifanc rhwng 16 a 25 o Balestina a Chymru yn cymryd rhan mewn prosiect newydd draws-ddiwylliannol.
-
Murlun Ysgol Bro Pedr
Cafodd disgyblion Ysgol Bro Pedr y cyfle i greu murlun wedi'i ysbrydoli gan yr ardal leol gyda'r artist Siôn Tomos Owen...
-
Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
Prosiect arbennig ddaeth a dwy genhedlaeth o ddysgwyr Cymraeg o orllewin Cymru ynghyd