Cynigiwyd 5 bwrsari Artist a Chymuned i artistiaid weithio’n greadigol gyda chymuned arbennig – boed hynny’n gymuned ddaearyddol, proffesiynol, ar-lein neu’n gymuned sy’n rhannu nodweddion o ran hunaniaeth – a rhoi cyfle i bobl yn y gymuned honno brofi effaith drawsnewidiol creadigrwydd ar eu bywydau.
Isod cewch wybodaeth am y 5 artist a dderbyniodd ein Bwrsari Artist a Chymuned:
Caitlin Lavagna
Fel rhan o’r bwrsari hwn, gweithiodd Caitlin ar gynhyrchiad theatr gair-am-air yn seiliedig ar Drychineb Aberfan, yn cynrychioli lleisiau o gymuned arbennig yng Nghymru ac yn ceisio cysur trwy gerddoriaeth i gymuned dosbarth gweithiol neilltuol sydd wedi dioddef trawma.
Mae Caitlin yn actor-gerddor graddedig cyffrous o Goleg Rose Bruford. Mae hi’n wreiddiol o Borth yng Nghwm Rhondda. Mae ei hyfforddiant wedi caniatáu iddi ddatblygu ei chrefft – nid yn unig fel actor-gerddor ond hefyd fel gwneuthurwr theatr amryddawn ac artist cydweithredol. Mae Caitlin yn gantores ac offerynwraig dalentog ac mae cyfansoddi a chreu cerddoriaeth wrth galon ei gwaith.
Yr hyn yr oedd Caitlin yn edrych ymlaen ato gyda'r cyfle hwn oedd ymchwilio ac ysgrifennu ei chynhyrchiad cyntaf fel actor-gerddor ers iddi raddio, a, thrwy gefnogaeth Theatr Gen, cafodd ei hangerdd dros greu gwaith theatrig sydd wedi’i wreiddio yn y gymuned ei hybu.
Wyn Mason
Fel rhan o’r bwrsari hwn, datblygodd Wyn ddrama sy’n ymwneud â’r profiad o atal dweud, wedi ei llunio’n benodol ar gyfer perfformwyr sydd ag atal dweud.
Daw Wyn yn wreiddiol o gefndir ffilm a theledu. Yn 2012/13, ymgymerodd â chynllun hyfforddi cyfarwyddwyr theatr a drefnwyd gan Theatr y Sherman, Living Pictures a Theatr Gen. Cafodd ei ysbrydoli gan y cwrs i sgwennu ei ddrama lwyfan gyntaf, Rhith Gân, a enillodd Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol 2015. Ers hynny, mae wedi cwblhau doethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol, cael ei ddewis i fod yn Awdur Preswyl yn Theatr Clwyd, ac wedi sefydlu cwmni theatr (Os Nad Nawr) ar y cyd gyda Branwen Davies. Yn haf 2021, teithiodd ei ddrama Gwlad yr Asyn ledled Cymru fel cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Genedlaethol Cymru.
Rufus Mufasa
Mae straeon hynafol merched wedi’u dwyn a fframweithiau’r theatr yn wrywaidd; fel rhan o’r bwrsari hwn, ymchwiliodd Rufus sut i ail-osod hyn trwy anrhydeddu’r fframweithiau matriarchaidd oedd ar y rheng flaen yn ystod y pandemig, a’r ffydd a’r cyfeillgarwch y canfyddodd pawb yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae Rufus Mufasa yn artist cyfranogol arloesol, actifydd llenyddol, bardd, rapiwr, cantores-gyfansoddwraig, gwneuthurwraig theatr, ac yn fam. O fod yn Gymrawd y Barbican, i Fardd Preswyl cyntaf Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Rufus hefyd yn gweithio’n rhyngwladol, gan sicrhau cyfnodau preswyl llenyddol mewn lleoliadau’n amrywio o Ŵyl Lenyddiaeth y Gelli, i Sweden, y Ffindir, Indonesia, ac yn fwyaf diweddar, Zimbabwe. Fodd bynnag, mae bob amser yn dychwelyd i People Speak Up yn Llanelli, gan hyrwyddo addysg hip hop, barddoniaeth perfformio, a gwaith datblygu rhwng cenedlaethau; yn ddiweddar fe’i penodwyd yn Fardd ar Bresgripsiwn gyda nhw. Bu’n artist Hull ’19 ar y cyd â BBC Contains Strong Language, ac mae wedi rhyddhau llyfr Flashbacks and Flowers, yn ogystal a dau albwm gerddorol. Mae gwaith Rufus yn archwilio mamolaeth, ysbrydolrwydd llinach, dosbarth, anhrefn hinsawdd, ffeministiaeth a ffydd, a thrawma traws-genhedlaeth neu gaeth.
Elis Pari
Fel rhan o’r bwrsari hwn, cafodd Elis y cyfle i ddatblygu taith o amgylch Bodnithoedd, sef fferm ei daid a’i nain, yn adrodd eu hanesion, eu ffordd o fyw a’u hymrwymiad i’w cymdogaeth.
Magwyd Elis ar fferm yng ngogledd-orllewin Cymru. Treuliodd dair blynedd yng Nghaerdydd yn astudio Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae bellach yn byw gartre. Bu hefyd yn astudio ar gyfer gradd Meistr drwy Ymchwil (Drama). Fel rhan o’i astudiaethau, ymchwiliodd i’r posibiliadau o ddefnyddio’r celfyddydau i geisio mynd i’r afael â’r broblem o ddirywiad yn lles meddyliol amaethwyr cefn gwlad Cymru.
Lis Parsons
Gwraidd prosiect Lis oedd meddwl am y tebygrwydd rhwng y “Welsh Not” a’r dulliau ymddygiadol sy’n cael eu defnyddio heddiw i orfodi plant awtistig i ymddwyn fel petaen nhw’n ‘normal’. Fel rhan o’r bwrsari hwn, gweithiodd Lis gydag oedolion awtistig i greu straeon am eu hunaniaeth o’u safbwyntiau nhw, mewn dulliau sy’n addas i bawb.
Chwedleuwr awtistig ac anneuaidd yw Lis Parsons. Mae ganddyn nhw MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe. Athro ydyn nhw, fel eu mam a’u nain: dwy fenyw gref, ddeallus ac ystyfnig. Garddwyr brwd, mwyn eu natur, roedd eu tad a’u ddau daid, y tad yn beiriannydd a’r teidiau’n lowyr. Cafodd eu magu ar hen straeon o bedwar ban byd, ac maen nhw wedi creu eu chwedlau eu hunain trwy gydol eu hoes. Ar ôl byw mewn dinasoedd yn ne Cymru a chanolbarth Lloegr, symudodd Lis i gefn gwlad Gwynedd yn 2019.
Prosiectau Eraill
-
ASHTAR Theatre x Theatr Cymru
Mae ASHTAR Theatre a Theatr Cymru - gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru - yn chwilio am gyfranogwyr ifanc rhwng 16 a 25 o Balestina a Chymru i gymryd rhan mewn prosiect newydd draws-ddiwylliannol.
-
Murlun Ysgol Bro Pedr
Cafodd disgyblion Ysgol Bro Pedr y cyfle i greu murlun wedi'i ysbrydoli gan yr ardal leol gyda'r artist Siôn Tomos Owen...
-
Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
Prosiect arbennig ddaeth a dwy genhedlaeth o ddysgwyr Cymraeg o orllewin Cymru ynghyd