Mewn partneriaeth â Theatr Soar a Theatr Genedlaethol Cymru, fe lansiodd Cynyrchiadau Leeway brosiect arbennig Academi Leeway, sef academi theatr gerdd ar lawr gwlad i bobl ifanc 14 – 25 oed yn ardaloedd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Penybont a Chastell Nedd Port Talbot!
Prif nod Academi Leeway oedd bod yn labordy i ddatblygu sioeau cerdd newydd yng Nghymru gan gynnig hyfforddiant ac ysbrydoli pobl ifanc drwy ddefnyddio deunydd newydd sbon o Gymru.
Cyfle i bobl ifanc ddod â straeon a hanesion lleol i’r llwyfan a chreu theatr gerdd newydd â gwreiddiau dwfn yng Nghymru. Drwy weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr o’r celfyddydau, y gobaith oedd ysgogi, ysbrydoli a chynnig llwybrau clir i'r dyfodol i’r bobl ifanc hynny sy'n rhan o'r prosiect.
Cyfle gwerthfawr i bobl ifanc oedd eisiau datblygu sgiliau creadigol, â diddordeb mewn creu neu berfformio theatr gerdd ac sy’n barod i wthio’r ffiniau; o gantorion, cerddorion a chyfansoddwyr i awduron, dylunwyr, beirdd, bît-bocswyr, artistiaid a pherfformwyr o bob math.
Academi Leeway 2021
Yn dilyn galwad agored, fe ddewisiwyd yr artistiaid a ddaeth yn rhan o flwyddyn gyntaf Academi Leeway.
Yr artistiaid hynny oedd: Deryn Allen-Dyer; Mia Cradle; Kira Davies; Rhydian Edbow; Sion Elfyn; Catrin England; Emily Harker; Lowri James; Eleri Lewis-Payne; Ffion Lowe; Lili Mohammad; Grace Rogerson; Elis Myers Sleight; Tomos Stokes; Zak Sutcliff; Dafydd Veck; Lloyd Williams; Chloe Teresa Wilson; ac Ellie Wyatt. Roedd yr holl artistiaid ifainc yn dod o ardaloedd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Pen-y-bont, Caerdydd a Chastell-nedd Port Talbot a daethon â wahanol arbenigeddau celfyddydol i’r grŵp, gan gynnwys canu, actio, darlunio a chwarae offerynnau.
Mewn sesiynau ar-lein wythnosol, gweithiodd aelodau’r academi dan arweinyddiaeth Angharad Lee a chyda thri chyfansoddwr profiadol, sef Kizzy Crawford, Lynwen Haf Roberts a James Williams. Datblygwyd tri darn o waith gan y criw dan yr enw Rhyfeloedd y ’Rona, wedi’u hysbrydoli gan argyfwng y Coronafeirws ac ymatebion y cyhoedd i’r newyddion o ddydd i ddydd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gwyliwch ffrwyth llafur y criw isod!
Prosiectau Eraill
-
ASHTAR Theatre x Theatr Cymru
Fel rhan o brosiect rhwng ASHTAR Theatre a Theatr Cymru, mae pobl ifanc rhwng 16 a 25 o Balestina a Chymru yn cymryd rhan mewn prosiect newydd draws-ddiwylliannol.
-
Murlun Ysgol Bro Pedr
Cafodd disgyblion Ysgol Bro Pedr y cyfle i greu murlun wedi'i ysbrydoli gan yr ardal leol gyda'r artist Siôn Tomos Owen...
-
Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
Prosiect arbennig ddaeth a dwy genhedlaeth o ddysgwyr Cymraeg o orllewin Cymru ynghyd