Efallai i'r rhai ohonoch sydd wedi bod i weld Romeo a Juliet sylwi ar ffilm fer yn cael ei harddangos yng nghyntedd pob theatr...
Dros y misoedd diwethaf, mae cannoedd o bobl ifanc ledled Cymru wedi bod yn rhan o greu ffilm fer - Trwy Ein Llygaid Ni - i godi’r llen ar berfformiadau Romeo a Juliet.
Dan arweiniad creadigol ein Cydlynydd Cyfranogi Sian Elin James a’r artistiaid Nia Morais a Connor Allen, bu disgyblion mewn 6 ysgol uwchradd yn archwilio beth mae Cymru yn ei golygu i bobl ifanc heddiw. Roedd y gweithdai gyda'r disgyblion yn archwilio’r berthynas rhwng pobl ifanc a Chymru drwy ganolbwyntio ar eu profiadau, eu hunaniaeth, a’u cysylltiad nhw gyda’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig.
Aeth Nia a Connor ati i droi’r syniadau o’r gweithdai i mewn i gerdd ddwyieithog, gyda’r cyfranogwyr ifanc yn adrodd y gerdd mewn ffilm fer gan Dafydd Hughes (Amcan).
Diolch o galon i’r holl ddisgyblion ac athrawon o Ysgol Glan Clwyd (Llanelwy), Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf (Caerdydd), The Bishop of Llandaf CiW School (Caerdydd), Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig (Aberystwyth), Ysgol Penglais (Aberystwyth) ac Ysgol St Michael (Llanelli).