Ry’n ni’n falch iawn o rannu ein bod wedi derbyn grant o £125,000 drwy Gronfa Cynyrchiadau Mawr Cyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi ein cynhyrchiad Gwenllïan.
Mae Theatr Cymru yn un o dderbynwyr cyntaf y gronfa newydd hon, sydd wedi'i chynllunio i ariannu cynyrchiadau uchelgeisiol, ar raddfa fawr sy'n arddangos creadigrwydd Cymru, gan gyrraedd cynulleidfaoedd ledled Cymru a’r tu hwnt. Hoffem longyfarch Cwmni Theatr Taking Flight a Welsh National Theatre, sydd hefyd wedi derbyn grantiau Cynyrchiadau Mawr.
Drama Gymraeg newydd feiddgar gan Angharad Elen yw Gwenllïan, sy’n ail-ddychmygu stori ein Tywysoges olaf. Bydd yn taflu goleuni ar adeg dyngedfennol nad yw llawer yn gwybod amdani gan ail-glywed llais Gwenllïan a rhoi profiad menywod yng nghanol yr hanes. Gan gyfuno adrodd straeon ag elfennau cyfoes a swreal, bydd y darn yn archwilio hunaniaeth, ymreolaeth menywod ac effaith barhaol goresgyniad.
Yn mynd ar daith genedlaethol yn 2027, bydd y cynhyrchiad uchelgeisiol gyda Chorws Cymru y BBC yn cynnwys cast o 30 gydag 20 o gantorion.
Dywedodd Angharad Jones Leefe, Cyfarwyddwr Gweithredol a Chyd-Brif Weithredwr Theatr Cymru:
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru am gefnogi Gwenllïan gyda’r Gronfa Cynyrchiadau Mawr. Bydd y gefnogaeth yn ein galluogi i wireddu gweledigaeth greadigol uchelgeisiol ac i adrodd stori epig sydd wedi’i hanwybyddu gan hanes - stori sy’n taflu goleuni newydd ar gwestiynau cyfoes o hunaniaeth a rhyddid. Mewn partneriaeth â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, bydd y prosiect yn ein galluogi i fuddsoddi mewn dawn Gymreig a sicrhau bod y naratif pwysig hwn yn cyrraedd cynulleidfaoedd ledled Cymru.”
Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am Gwenllïan cyn hir.