Mae Theatr Cymru yn falch iawn o gyhoeddi partneriaeth newydd gyffrous gyda Chwmni Theatr yr Urdd i gefnogi ei lwyfaniad o’r sioe gerdd Calon. Bydd y cynhyrchiad, sy'n llawn caneuon eiconig gan Caryl Parry Jones, yn cael ei lwyfannu yn Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, o 27 i 29 Awst 2026.
Fel rhan o’r bartneriaeth arbennig hon, bydd Rhian Blythe – Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Cymru – yn cyfarwyddo Calon, gan ddod â’i phrofiad helaeth fel cyfarwyddwr ac actor i fwy na 100 o berfformwyr rhwng 15 a 25 oed o bob cwr o Gymru. Bydd Gareth Wyn Roberts – Pennaeth Cynhyrchu Theatr Cymru – yn ymuno â thîm y cynhyrchiad drwy roi cefnogaeth ychwanegol fel Rheolwr Cynhyrchu a chynnig mentora proffesiynol i’r criw cefn llwyfan ifanc.
Mae Rhian Blythe yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r genhedlaeth nesaf o dalent theatrig yng Nghymru:
"Ar ôl penwythnos yng nghartref yr Urdd ym Mae Caerdydd yng nghwmni Caryl, Non, Miriam, Elan, Math, Branwen a 6 o actorion ifanc yn trin a thrafod sgript Calon, roedd fy nghalon inna’n llawn. Yn byrstio a deud y gwir. Yn ogystal â chaneuon anhygoel Caryl, mae’r stori yn un fydd yn apelio at bobol o bob oed; mae ‘na nostalgia a hiraeth am hafau hirfelyn ers talwm, ac eto mae’r stori yn un gyfoes. Pobol ifanc yn brwydro i ffeindio eu lle yn y byd, i gael eu clywed, ac ar eu taith yn darganfod eu llwyth, eu teulu dewisiedig. Sioe i gnesu’r galon fydd hon yn sicr, a dwi’n teimlo’n freintiedig iawn i fod yn rhan o’r hwyl.”
Mae'r bartneriaeth hon yn nodi buddsoddiad sylweddol mewn talent ifanc Cymraeg. Hon fydd sioe fwyaf Cwmni Theatr yr Urdd ar ei newydd wedd, ers ail-lansio yn ystod blwyddyn canmlwyddiant y Mudiad yn 2022 – ac mae'r cydweithrediad hwn yn tanlinellu ymrwymiad Theatr Cymru i feithrin y genhedlaeth nesaf o grewyr theatr yng Nghymru.
Mae Branwen Davies, Trefnydd Cwmni Theatr yr Urdd, yn croesawu’r bartneriaeth ac yn edrych ymlaen at gydweithio â Rhian, Gareth a thîm ehangach Theatr Cymru dros y misoedd nesaf:
“Nod Cwmni Theatr yr Urdd ydy sicrhau bod ein haelodau yn cael y cyfle i weithio gyda'r goreuon ym myd y celfyddydau yng Nghymru. Mae cael cydweithio gyda Theatr Cymru ar gynhyrchiad mor arbennig yn wefr a fydd brofiad hollol amhrisiadwy i'n haelodau.”
Yn cyhoeddi’r bartneriaeth heddiw mewn digwyddiad lansio yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, mae Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, yn falch iawn o gefnogi gweledigaeth creadigol Cwmni Theatr yr Urdd:
“Mae’n wych cydweithio efo Cwmni Theatr yr Urdd i gyflawni’r weledigaeth uchelgeisiol o sioe gerdd newydd ar un o lwyfannau mwyaf Ewrop. Mae Caryl a Non wedi creu sioe unigryw a direidus sy’n dathlu pobl ifanc Cymru. Rwy’n falch ein bod yn dod ynghyd i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o artistiaid a gweithwyr theatr Cymraeg.”
Mae Calon yn sioe gerdd gyfoes wreiddiol gan Caryl Parry Jones, Non Parry, Elan Isaac a Miriam Isaac sy’n dathlu’r wledd o ganeuon a gyfansoddwyd gan Caryl ar hyd y degawdau. Mae tocynnau ar gael trwy Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru.