14/05/2025

Romeo a Juliet: Cynhyrchiad dwyieithog sydd ar ei ffordd i Lundain

Romeo and Juliet image

Mae Theatr Cymru yn falch o gyhoeddi cynhyrchiad dwyieithog o Romeo a Juliet gan William Shakespeare sydd ar y gweill, mewn cydweithrediad â Shakespeare’s Globe. Bydd y cynhyrchiad yn agor yn Theatr Sherman, Caerdydd, ar 29 Medi, ac yn teithio i ganolfannau ledled Cymru cyn cael ei berfformio am rediad byr yn Sam Wanamaker Playhouse y Globe yn Llundain. 

Wedi'i gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, Steffan Donnelly, mae'r cynhyrchiad yn serennu Steffan Cennydd fel Romeo. Wedi'i hyfforddi yn Ysgol Gerdd a Drama'r Guildhall, mae clodrestr theatr ddiweddar Steffan yn cynnwys drama Taylor Mac, Hir, yn Park Theatre – lle serennodd gyferbyn â Felicity Huffman – a drama Stella Feehily, The Lightest Element, yn Theatr Hampstead. Yn ymuno â Steffan, bydd cast ensemble cyffrous, sydd i'w gyhoeddi'n fuan iawn.

Mae'r cynhyrchiad arloesol yma’n plethu'r Gymraeg a'r Saesneg ynghyd, gan archwilio hunaniaeth Gymreig a dod â newydd-deb cyfoes i'r stori oesol am gariad a gwrthdaro. Gan ddefnyddio testun gwreiddiol Shakespeare ochr yn ochr â chyfieithiad Cymraeg clodwiw J. T. Jones a gyhoeddwyd yn 1983, bydd y ddeialog yn symud yn rhwydd rhwng ieithoedd, gan amlygu'r farddoniaeth a'r wleidyddiaeth sydd wrth wraidd y ddrama.

Mae'r cyfarwyddwr Steffan Donnelly wedi cynnull tîm creadigol gwych i lwyfannu'r cynhyrchiad uchelgeisiol yma. Bydd y dylunydd Elin Steele, a weithiodd gyda'r cwmni ar Huw Fyw yn ddiweddar, yn arwain ar y set a'r gwisgoedd, gyda Dyfan Jones yn gyfansoddwr a dylunydd sain a Ceri James yn ddylunydd goleuo. 

Ar ôl perfformio sawl tymor yn Shakespeare’s Globe fel actor, mae hyn yn cau’r cylch i Gyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, Steffan Donnelly, wrth iddo ddychwelyd i’r ganolfan gyda’r cynhyrchiad dwyieithog yma:  

“Dwi wrth fy modd wrth feddwl am greu y fersiwn ddwyieithog yma o un o ddramâu oesol Shakespeare, gan archwilio terfynau iaith a chymdeithas sy’n cael ei gwthio i’r ymylon. Dw i’n llawn cyffro ynghylch cydweithio efo Steffan, ynghyd â chast ensemble mawr o berfformwyr talentog o Gymru a thîm creadigol rhagorol.

Fel efo'n holl gynyrchiadau ni, mi fyddwn ni’n teithio ledled Cymru, ond am y tro cyntaf yn hanes Theatr Cymru – ac am y tro cyntaf i theatr Gymraeg – mi fydd ein gwaith hefyd yn cael ei weld ar un o brif lwyfannau Llundain. Mae’r Sam Wanamaker Playhouse yn Shakespeare’s Globe yn theatr sydd heb ei thebyg, yn ofod cwbl fyw lle mae'r amgylchedd agos atoch chi wedi’i grefftio’n berffaith, sy’n ddelfrydol ar gyfer y ddrama yma. Mae’n gymaint o fraint cael cydweithio efo tîm croesawgar ac angerddol y Globe a dwi’n edrych ymlaen at weld cynulleidfaoedd ledled Cymru a Llundain yn profi ein fersiwn newydd ni o Romeo a Juliet.”

Romeo a Juliet yw'r cynhyrchiad Cymraeg cyntaf i gael ei lwyfannu yn Shakespeare's Globe. Meddai Michelle Terry, Cyfarwyddwr Artistig Shakespeare’s Globe:  

“Rydym mor falch a chyffrous i groesawu Steffan a’i gwmni eithriadol i’r Globe gyda’r cynhyrchiad arloesol yma, sydd o ran ffurf a chynnwys yn gofyn i ni ddod at ein gilydd i ddathlu yr hyn sy'n wahanol amdanom. Mae’n anrhydedd hefyd fod Steffan wedi dewis y Globe fel y brif theatr gyntaf yn Llundain i rannu gwaith pwysig Theatr Cymru.”

Bydd capsiynau dwyieithog ar gael drwy gydol taith Cymru, yn ogystal â pherfformiad Iaith Arwyddion Prydain gyda'r dehonglydd Cathryn McShane yn Theatr Sherman Caerdydd ar 1 Hydref. 

Bydd Romeo a Juliet yn teithio Cymru o 29 Medi 2025 ymlaen. Cyhoeddir dyddiadau'r rhediad yn Llundain yn fuan.