I gyd-fynd â chychwyn ein taith gyntaf ers y cyfnod clo, mae EP wedi’i ryddhau heddiw drwy Recordiadau Udishido sy’n cynnwys 5 cân sy’n rhan o’r cynhyrchiad theatr, Gwlad yr Asyn, ac sy’n cael eu perfformio’n fyw yn y sioe.
Gallwch wrando ar y caneuon fan hyn.
Gyda geiriau gan y dramodydd Wyn Mason, mae’r gerddoriaeth wedi’i gyfansoddi, ei gynhyrchu a’i berfformio gan Samiwel Humphreys a Bethan Rhiannon (Calan, Pendevig, NoGood Boyo, Shamoniks), gyda chyfraniadau hefyd gan Gwenllian Higginson.
O 10 i 26 Awst, bydd Gwlad yr Asyn, cyd-gynhyrchiad newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru ac Os Nad Nawr, yn teithio lleoliadau ledled Cymru. Ar ôl agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, bydd yn teithio i lwyfannau awyr agored yn Theatr Clwyd (Yr Wyddgrug), Plas Glyn-y-Weddw (Llanbedrog, ger Pwllheli), Pontio (Bangor), Parc Gwledig Pen-bre (trwy Theatrau Sir Gâr) a Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth.
Wedi ei chyfarwyddo gan Steffan Donnelly, mae’r ddrama ddireidus hon yn gyfuniad o alegori, dychan, caneuon a cherddoriaeth fyw, ac mae’n cynnwys tri pherfformiwr: yr actores Gwenllian Higginson (Merched Caerdydd, Macbeth, Enid a Lucy, 35 Diwrnod) a’r cyfansoddwyr a cherddorion Samiwel Humphreys a Bethan Rhiannon.
Cewch ragor o wybodaeth am gynhyrchiad Gwlad yr Asyn a manylion sut i archebu tocynnau fan hyn.