Mae Tic Ashfield, Cyfansoddwr a Chynllunydd Sain Pijin | Pigeon, am fynd â chi ar daith gerddorol yn ôl i'r ’90au...
Ry'n ni'n croesawu Tic yn ôl atom ni ar gyfer ein cynhyrchiad nesaf ar ôl gweithio gyda hi'n gyntaf ar Pryd Mae'r Haf yn 2020 a 2021. Y tro hwn, mae dylanwadau cerddorol y ’90au, y cyfnod y mae stori Alys Conran wedi'i selio ynddi, yn cael eu hadlewyrchu'n glir trwy ei gwaith.
Dyma restr chwarae ganddi yn llawn rhai o glasuron y ddegawd honno; caneuon sydd wedi ysbrydoli Tic yn ei gwaith wrth fynd ati i greu'r gerddoriaeth ar gyfer y ddrama.