Mae Theatr Cymru yn falch o gyflwyno blwyddyn o gynyrchiadau beiddgar ac arloesol, ochr yn ochr ag enw a brand newydd sy’n cynrychioli ein hymrwymiad i fod yn gwmni theatr i Gymru gyfan ac i roi’r genedl a’i phobl wrth galon ein gwaith.
Bydd 2025 yn flwyddyn fawr i ni yn Theatr Cymru wrth i ni gyflwyno chwech cynhyrchiad. Yn ogystal â dramâu newydd gan Mared Jarman, Tudur Owen a Bethan Marlow, bydd y cwmni yn cyflwyno clasur Shakespeare ar newydd wedd, cynnal prosiectau cymunedol arloesol, a bydd cyfle i fwynhau cynyrchiadau o’ch cartref ar S4C a BBC iPlayer am y tro cyntaf.
Yn dilyn ennill Gwobr UK Theatre 2024 am Ragoriaeth Mewn Teithio fis diwethaf, mae rhaglen y flwyddyn nesaf yn atgyfnerthu ymrwymiad Theatr Cymru i deithio theatr uchelgeisiol mor agos at stepen ddrws pobl a chymunedau’r wlad, i greu deialog ystyrlon gyda’i gynulleidfaoedd ac i sicrhau dyfodol llewyrchus i'n hiaith a’n diwylliant.
Byth Bythoedd Amen
gan Mared Jarman
25 Ionawr - 13 Chwefror 2025
I ddechrau’r flwyddyn newydd, bydd Theatr Cymru yn cyflwyno drama newydd gan Mared Jarman, Byth Bythoedd Amen. Yn ddinesig, yn ddoniol ac yn dywyll, dyma ddrama newydd am gariad, colled a bywyd fel pobl anabl mewn byd sy’n blaenoriaethu’r brif ffrwd. Yn teithio ledled Cymru, bydd Mared – enillydd BAFTA Cymru a llais newydd a chyffrous i fyd y theatr Gymraeg - hefyd yn perfformio, ochr yn ochr â’r actor a’r cyflwynydd Paul Davies, dan gyfarwyddyd Rhian Blythe. Gyda chefnogaeth gan Craidd.
Huw Fyw
gan Tudur Owen
Mai 2025
Fis Mai, bydd y cwmni yn cyflwyno drama lwyfan gyntaf Tudur Owen, Huw Fyw. Yn dilyn hanes hen filwr blin sy’n profi tro lwcus sy’n newid ei fywyd, bydd y cynhyrchiad hwn yn archwiliad ddireidus o sut i fyw at heddiw, tra’n cydio’n dynn yn y gorffennol. 80 mlynedd ers ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, bydd Tudur, sy’n un o ddigrifwyr mwyaf adnabyddus Cymru, yn serennu fel Huw Fyw, gyda chyfarwyddo gan Steffan Donnelly. Bydd gweddill y cast yn cael eu cyhoeddi’n fuan.
Brên. Calon. Fi
gan Bethan Marlow
Mehefin 2025
Yn dilyn ymateb gwefreiddiol i’r perfformiadau cychwynnol yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024, bydd Brên. Calon. Fi gan Bethan Marlow yn mynd ar daith fel rhan o ddathliadau mis Pride ym mis Mehefin. Y cyntaf o’i fath, dyma fonolog doniol a dirdynnol am chwant a chariad lesbiaidd, wedi’i gyfarwyddo gan Rhiannon Mair ac yn serennu Lowri Morgan. Datblygwyd yn wreiddiol gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Wrecslam!
Eisteddfod 2025
Bydd Theatr Cymru yn parhau gyda’i bartneriaeth hirdymor gyda Theatr Clwyd i ddatblygu a chynhyrchu dramâu comedi newydd Cymraeg. Yn dilyn fformat Rwan/Nawr yn 2023 a Ha/Ha yn 2024, bydd y cwmnïau yn comisiynu a datblygu 4 drama fer newydd wedi’u gwreiddio yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru i’w perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 ym mis Awst.
Romeo a Juliet
gan William Shakespeare (Addasiad Cymraeg gan J. T. Jones)
Medi a Hydref 2025
Yn yr hydref, bydd Theatr Cymru yn ymgymryd ag un o glasuron mwyaf theatr gyda chynhyrchiad newydd o Romeo a Juliet. Yn taflu golwg newydd ar y stori garu enwog, bydd y cynhyrchiad arloesol hwn – dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly – yn plethu’r Gymraeg a’r Saesneg, gan osod y ffrae ffyrnig rhwng y teuluoedd Montague a Capulet yng nghymdeithas dwyieithog Cymru ac yn archwilio eithafoedd angerdd ac anrhefn. Bydd partneriaid a’r cast yn cael ei gyhoeddi maes o law, a bydd rhaglen o weithdai yn seiliedig ar y cynhyrchiad ar gael i ysgolion.
Sioe Nadolig (I’w gyhoeddi)
Rhagfyr 2025 ac Ionawr 2026
Ar y cyd â Theatr y Sherman, bydd Theatr Cymru yn cyflwyno cynhyrchiad newydd i blant 3-6 oed a’u teuluoedd adeg y Nadolig. Bydd y sioe yn treulio cyfnod cychwynnol yng Nghaerdydd dros yr ŵyl, cyn teithio Cymru yn y flwyddyn newydd.
Yn ogystal â’r cyfleoedd i weld gwaith y cwmni ar lwyfannau ledled Cymru, bydd hefyd gyfle i weld dau o gyn-gynyrchiadau Theatr Cymru ar y sgrin fach fel rhan o bartneriaeth gyffrous gyda S4C. Bydd Parti Priodas, y ddrama gomedi hynod lwyddiannus gan Gruffudd Owen, yn cael ei ddarlledu ar S4C ar 8 Rhagfyr 2024, gydag ail-ddarllediad yn y flwyddyn newydd. Bydd cynhyrchiad epig y cwmni o Rhinoseros gan Eugène Ionesco (addasiad Manon Steffan Ros) yn ymuno â Parti Priodas ar S4C Clic a BBC iPlayer o Ragfyr 2024 i Ebrill 2025.
Bydd y flwyddyn hefyd yn gweld parhad i waith cyfranogi helaeth y cwmni ledled Cymru a thu hwnt. Fel diweddglo i'r prosiect diweddar gydag ASHTAR Theatre ym Mhalesteina, bydd y ddau gwmni yn cyhoeddi ffilm fer ar ddechrau 2025 i rannu gwaith creadigol gan bobl ifanc o Gymru a Phalesteina, sydd wedi bod yn cyfarfod ar-lein bob wythnos i ysgrifennu gyda’i gilydd mewn gofod diogel. Hefyd, mae Ar y Dibyn, sef prosiect hir-dymor i gefnogi rhai sydd wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth, yn mynd o nerth i nerth. Gyda mwy na 1,000 o gyfranogwyr wedi ymwneud â’r prosiect ers 2019, mae gweithdai - dan ofal yr artist arweiniol Iola Ynyr - wedi dechrau mewn lleoliadau newydd ac yn annog creadigrwydd i brosesu profiadau bywyd.
Wrth rannu’r newyddion, dywedodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni:
"Mae ein cynyrchiadau yn 2025 yn llawn ysgrifennu newydd gan leisiau cyffrous Cymraeg sy’n ein tywys i fydoedd gwahanol, herio’r drefn, a dathlu pŵer cymuned a hunaniaeth. Mae hunaniaeth hefyd yn byrlymu drwy’r clasur y byddwn yn cyflwyno, sef fersiwn newydd o stori gariad enwoga'r byd – Romeo a Juliet.
Mewn cyfnod lle mae teithio cynyrchiadau yn heriol a phrin ofnadwy, rydym yn cynnig 5 taith genedlaethol i theatrau Cymru yn 2025, i ddiddanu ac ysbrydoli ein cynulleidfaoedd. Dwi hefyd yn gyffrous iawn i weld dau o’n cynyrchiadau ar y teledu, S4C Clic ac iPlayer am y tro cyntaf – un o’r sawl ffordd rydym yn ehangu mynediad i’n gwaith.
Dwi’n edrych ymlaen i ni gydweithio efo cannoedd o artistiaid a llawryddion dawnus flwyddyn nesaf, a chroesawu cynulleidfaoedd i amrywiaeth eang o gynyrchiadau. Bydd Theatr Cymru yn sicr o brocio’r meddwl a thanio’r dychymyg yn 2025."
Yn trafod enw newydd y cwmni, dywedodd Angharad Jones Leefe, Cyfarwyddwr Gweithredol y cwmni:
“Ry’n ni’n falch o allu lansio’r brand ac enw newydd, sy’n teimlo’n fwy tryw i weledigaeth presennol y cwmni ac yn cyfleu ein hawydd ni i fod yn groesawgar a chynhwysol.
Dyma enw sy’n cynrychioli’n glir ein hunaniaeth a’n pwrpas, ac sy’n cyfleu ein hangerdd dros fod yn llwyfan i wneuthurwyr a gweithwyr theatr anhygoel Cymru.
Mewn blwyddyn lle ry’n ni wedi gweld ein cynulleidfaoedd yn dychwelyd i lefel cyn-COVID am y tro cyntaf, ry’n ni’n hyderus o adeiladu ar hyn gyda’r rhaglen waith uchelgeisiol yma ac yn edrych ‘mlaen at groesawu cynulleidfaoedd ledled Cymru i’r cynyrchiadau yma.”
Roedd Theatr Cymru yn falch iawn o weithio gydag Uned Studio i ddatblygu’r brand newydd. Mae’r newid i’r enw yn cyfleu yr hyder sydd gennym ni fel Cymry yn ein hunaniaeth fel cenedl, ac yn dangos esblygiad naturiol. Mae’r cwmni hefyd wedi newid yn sylweddol ers ei sefydlu yn 2003 ac mae’n teimlo’n amserol fod yr enw a’r brand yn adlewyrchu hynny.
-
Byth Bythoedd Amen
-
Huw Fyw
-
Brên. Calon. Fi
-
Romeo a Juliet