Newyddion 13/12/2023

Ie Ie Ie: Tîm talentog yn dod â phrofiadau pobl ifanc i’r llwyfan

Graphic for Ie Ie Ie with headshots for the creative team. The first is Eleri Morgan, a white actress in her thirties with short dark curly hair. The next is Director Juliette Manon. They are white, in their twenties and they have a bleach blonde buzzcut. They are the director. Next is Lily Beau's headshot. She is a mixed race woman in her twenties with long afro hair. She is the author of the Welsh adaptation. Next is Enfys Clara, assistant director. They are a young mixed race woman with red afro hair.

Ry'n ni wrthi’n paratoi at ei daith genedlaethol nesaf, Ie Ie Ie – sef darn o theatr bwysig sydd wedi’i gyd-greu gyda phobl ifanc Cymru ac sy’n codi cwestiynau hanfodol am berthnasau iach, chwant a chyd-synio. Bydd taith Ie Ie Ie yn dechrau yn Theatr y Sherman, Caerdydd, ar 5 Chwefror, cyn ymweld â chanolfannau ledled Cymru.

Dyma gynhyrchiad i bobl ifanc sy’n cynnwys cyfweliadau gonest a sgwrs agored am brofiadau bywyd ac mae’r cwmni wedi dod â thîm arbennig o artistiaid at ei gilydd i ddatblygu a llwyfannu’r cynhyrchiad arbennig hwn. Gyda’r cyfarwyddwr a’r artist Juliette Manon wrth y llyw, mae’r actor, comediwraig ac awdur Eleri Morgan yn perfformio’r sioe un-berson yma. Mae’r cynhyrchiad wedi’i addasu i’r Gymraeg gan Lily Beau ac mae Enfys Clara hefyd yn ymuno â’r tîm fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol.

Gyda’r ymarferion yn cychwyn yn y flwyddyn newydd, dywedodd y cyfarwyddwr Juliette Manon:
“Dwi methu aros i rannu Ie Ie Ie gyda phawb! Mae’r sioe a’r pwnc yn agos iawn at fy nghalon ac mae’n teimlo’n hynod o berthnasol a hanfodol. Dwi’n gobeithio y bydd yn agor y drws i drafodaethau hollbwysig am berthnasau a chyd-synio, ac yn atseinio gyda phobl ifanc ac oedolion ledled Cymru.”

Mae Ie Ie Ie yn addasiad Cymraeg o Yes Yes Yes, sef sioe fyw gan yr artistiaid Karin McCracken ac Eleanor Bishop o Aotearoa / Seland Newydd. Roedd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, wedi’i ysbrydoli i ddatblygu’r addasiad Cymraeg ar ôl gweld perfformiad o’r sioe wreiddiol yn ystod Gŵyl CINARS yn Canada yn 2022. Dywedodd Steffan:
“Roedd gweld Yes Yes Yes yn brofiad anhygoel – mae Karin ac Eleanor wedi creu sioe agos-atoch sy’n trafod pynciau pwysig mewn ffordd perthnasol ac anffurfiol. Ro’n i’n teimlo’n sicr petawn wedi gweld y sioe hon yn fy arddegau y byddai wedi cael effaith mawr ar fy mywyd ac, o’r foment honno, roeddwn yn benderfynol o greu addasiad Cymraeg o’r cynhyrchiad ar gyfer - ac ar y cyd â – phobl ifanc Cymru. Dwi’n hynod falch o’r tîm talentog ry’n ni wedi ymgynnull i lwyfannu’r cynhyrchiad unigryw hwn ac, wrth gwrs, mae’n wych gweld y gwaith cyfranogi sydd wedi bod yn digwydd ledled Cymru dros y misoedd diwethaf.”

Ry'n ni'n arbennig o falch o weithio gyda phobl ifanc i gyd-greu elfennau o’r darn unigryw hwn o theatr. Dros y misoedd diwethaf, mae Sian Elin James, Cydlynydd Cyfranogi’r cwmni, wedi bod yn arwain adain cyfranogi’r prosiect gan deithio i ysgolion a sefydliadau addysg ledled Cymru i gynnal gweithdai sy’n trafod cwestiynau mawr a chyfweld â phobl ifanc ar gyfer y sioe:
“Dwi wedi bod yn ffodus iawn i gydweithio ag amryw o bobl ifanc arbennig dros y misoedd diwethaf gyda gweithdai Ie Ie Ie. Mae’n bwnc sydd efallai ddim yn cael digon o sylw o fewn ysgolion a cholegau addysg bellach ac roedd gweld angerdd y bobl ifanc tuag ato yn brofiad amhrisiadwy. Edrychaf ‘mlaen yn arw at weld ffrwyth llafur a lleisiau pobl ifanc ar lwyfannau Cymru a dathlu eu profiadau."

Wrth ddatblygu’r cynhyrchiad a gweithio gyda’r cyfranogwyr ifanc ar draws y wlad, mae’r cwmni wedi derbyn hyfforddiant a chefnogaeth ymgynghorol gan y mudiad Brook Cymru, elusen iechyd rhywiol i bobl ifanc. Gallwch ddysgu mwy am waith Brook ar y wefan, brook.org.uk