Lleisiau pobl ifanc yn herio’r naratif? Ie plis!
Ry’n ni wedi bod yn gweithio ar y cyd â Hansh i roi platfform i brofiadau carwriaethol pobl ifanc heddiw a herio sut ry’n ni’n trafod rhyw a pherthnasau iach.
Fel rhan o’r fideo – sydd bellach ar gael ar sianel YouTube Hansh - mae saith person ifanc yn cymryd rhan mewn cyfweliadau gonest a phersonol ac hoffem ddiolch o galon i AJ Perry, Harri Rees-Jones, Isabella Thomas, Jona Milone, Kallum Weyman, Kimberly Abodunrin a Lily Beau am fod mor agored gyda ni.
Ffilmiwyd y cyfweliadau gwreiddiol fel rhan o gynhyrchiad Theatr Cymru, Ie Ie Ie, yn 2024. Yn ceisio newid y naratif o gwmpas cydsynio, roedd Ie Ie Ie yn rhoi lleisiau pobl ifanc ar ganol llwyfan ac fe’i deithiwyd i theatrau ac ysgolion ledled Cymru, yn ogystal â pherfformiad yn Eisteddfod yr Urdd 2024.
Roedd Ie Ie Ie yn seiliedig ar y sioe Yes Yes Yes gan y gwneuthurwyr theatr o Aotearoa/Seland Newydd, Karin McCracken ac Eleanor Bishop. Addaswyd y sioe lwyfan i’r Gymraeg gan Lily Beau gyda chyfarwyddo gan Juliette Manon a pherfformiad gan Eleri Morgan.
Gwyliwch y fideo isod: