Mae Theatr Cymru, Yr Egin a Chwmni Theatr Arad Goch gyda chefnogaeth gan Theatrau Sir Gâr, yn falch iawn o gyhoeddi eu cyd-gynhyrchiad Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau – sioe gerdd newydd sbon gan Mererid Hopwood yn seiliedig ar ei chyfres o lyfrau Dosbarth Miss Prydderch, gyda cherddoriaeth gan Seiriol Davies. Bydd y cynhyrchiad yn agor yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin ym mis Mehefin 2026, cyn teithio i theatrau ledled Cymru.
Yn llawn dop o ddireidi, dychymyg a cherddoriaeth gofiadwy, mae’r sioe gerdd hudolus hon yn dod ag anturiaethau a chymeriadau’r gyfres lyfrau annwyl i’r llwyfan. Gydag Ysgol Gwaelod y Garn dan fygythiad o gael ei chau, mae Alfred a’i ffrindiau yn ceisio meddwl am ffordd o’i hachub pan mae athrawes newydd, llwydaidd a llym, yn cychwyn yn yr ysgol. Cyn hir, daw’n amlwg ei bod hi’n llawer mwy nag athrawes gyffredin... os gall unrhyw un helpu’r plant i achub yr ysgol, Miss Prydderch yw’r un! Wrth i’r dosbarth gamu i fyd hudolus, mae antur gyffrous o’u blaenau, lle mae’r ffrindiau’n cael cyfle i drechu eu hofnau a darganfod eu lleisiau.
Ffion Wyn Bowen yw Cyfarwyddwr Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau, gyda Steffan Donnelly yn cefnogi fel Cyfarwyddwr Cyswllt – dyma’r tro cyntaf i Gyfarwyddwyr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch a Theatr Cymru gydweithio fel hyn. Mererid Hopwood yw awdur y cynhyrchiad newydd hwn i blant. Yn fardd, awdur ac Archdderwydd Cymru , mae Mererid yn ysgrifennu straeon a cherddi llawn hwyl a dychymyg i blant a phobl ifanc – ac mae’n angerddol dros ysbrydoli darllenwyr ifanc. Ochr yn ochr â sgript direidus Mererid, mae’r cynhyrchiad yn cynnwys cerddoriaeth bywiog gan Seiriol Davies, sef y cyfansoddwr, awdur a pherfformiwr arobryn y tu ôl i y tu ôl i How to Win Against History, Corn Gwlad, Milky Peaks a Betty: A Sort of Musical. Bydd y cynhyrchiad hefyd yn cynnwys set a gwisgoedd trawiadol gan y dylunydd Cai Dyfan, goleuo gan Cara Hood a choreograffi gan Cêt Haf, gyda Lynwen Haf fel Cyfarwyddwr Cerdd, Eädyth Crawford fel Cynllunydd Sain a Steffan Rhys Williams fel Cynhyrchydd Cerdd. Byddwn yn cyhoeddi’r cast dros y misoedd nesaf.
Wrth drafod addasu rhai o’i straeon i’r llwyfan, dywedodd yr awdur Mererid Hopwood:
“Mae Miss Prydderch a’i dosbarth wedi bod yn gwmni i mi ers ugain mlynedd a mwy, ac yn wahanol i’r broses o roi eu straeon ar bapur, mae eu gosod mewn sgript yn waith tîm. Bu rhaid dewis a dethol cymeriadau a chywasgu tair cyfrol yn un ddrama, ond yr un yw’r stori, yr un yw Elen ac Alfred a’r un yw’r hudolus Miss Prydderch. Mae gen i le i ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r cywaith a gobeithio y bydd plantos mawr a bach yn mwynhau’r daith o’r llyfr i’r llwyfan.”
Dywedodd y cyfansoddwr Seiriol Davies:
“Mae straeon Mererid wedi swyno plant ers blynyddoedd ac mae hi’n bleser a braint gallu bod yn rhan o ddŵad â nhw i gynulleidfaoedd byw mewn sioe llawn miri, direidi a doethineb. Dwi’n edrych mlaen yn fawr i weld pa weledigaeth roith y tîm ar lwyfannau Cymru - fydd o’n siŵr o fod yn wych a gwyllt!”
Dyma’r tro cyntaf i Theatr Cymru, Yr Egin a Chwmni Theatr Arad Goch gydweithio ar gynhyrchiad a thaith. Dywedodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru:
“Dwi’n falch iawn o gyhoeddi’r cyd-gynhyrchiad yma gyda’n partneriaid arbennig, Yr Egin a Chwmni Theatr Arad Goch. O’r cychwyn cyntaf, roedd yn amlwg bod y tri sefydliad yn rhannu cyffro mawr am y sioe gerdd hudolus hon ac am ddod ynghyd i greu profiad theatrig hollol wefreiddiol i blant Cymru. Gyda sgript a chymeriadau eiconig Mererid, cerddoriaeth fendigedig Seiriol, tîm creadigol penigamp a Ffion wrth y llyw, rwy’n gwybod y bydd hwn yn gynhyrchiad i’w gofio a dwi’n methu aros i weld ymateb cynulleidfaoedd ifanc ledled Cymru ar ein taith genedlaethol.”
Yr Egin fu’n gyfrifol am ddatblygiad cynnar y cynhyrchiad – gyda chyfnodau ymchwil a datblygu llwyddiannus ers 2020. Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin:
“Mae’r Egin yn lle perffaith ar gyfer egino syniadau ac mae wedi bod yn bleser i ddatblygu’r llyfrau gwych yma ar gyfer y llwyfan. Mae sawl blwyddyn ers i mi fod yn darllen y llyfrau i fy mab a meddwl mi fyddent yn gwneud sioe lwyfan arbennig! Dwi’n hynod o gyffrous y bydd cynulleidfaoedd teuluol ac ysgolion yn cael y cyfle i weld y cynhyrchiad arbennig yma yn 2026. Mae’n gyffrous iawn i gyd-gynhyrchu gyda phartneriaid profiadol a chynnig cyfleon unigryw i fyfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn sgil hynny. Gweledigaeth Yr Egin yw tanio egni creadigol ac rwy’n hyderus mi fydd hynny’n digwydd ledled Cymru gyda’r sioe gerdd hudolus yma.”
Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn dod â phrofiad helaeth o greu gwaith theatr bythgofiadwy i blant a phobl ifanc. Dywedodd Ffion Wyn Bowen, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Arad Goch:
“Ers degawdau mae cynulleidfaoedd ifanc Cymru yn gyfarwydd â gweld cynyrchiadau gan Gwmni Theatr Arad Goch mewn theatrau ledled Cymru yn ystod tymor yr haf gyda chynyrchiadau fel Sgleinio’r Lleuad, Cerdyn Post o Wlad y Rwla a Twm Sion Cati. Eleni, mae’n gyffrous cyd-weithio gydag Yr Egin a Theatr Cymru i ddod ag addasiad hudolus Mererid Hopwood o’i llyfrau poblogaidd Dosbarth Miss Prydderch yn fyw ar lwyfannau ar draws Cymru. Dwi’n edrych ymlaen i’r wefr o fynd ar antur ar y carped hud gyda Miss Prydderch, Alfred a’i ffrindiau.”
Bydd Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau yn teithio i theatrau ledled Cymru o 6 Mehefin – 4 Gorffennaf 2026 – ar gyfer ysgolion cynradd a theuluoedd.