Ry’n ni mor falch bod ymarferion ar gyfer ein cynhyrchiad nesaf, Pijin / Pigeon, ar y cyd â Theatr Iolo, wedi dechrau wythnos ddiwethaf yng Nghaerfyrddin.
Fel pob cyfnod ymarfer, dechreuodd yr ymarferion gyda chyfarfod croeso oedd yn cynnwys holl gast, tîm creadigol a chriw y cynhyrchiad, yn ogystal â staff o’r ddau gwmni cynhyrchu. Yn wir, dyma’r tro cyntaf i unrhyw gyfarfod croeso fod mor llawn ers cyn y cyfnod clo!
Ar ôl i bawb gyflwyno eu hunain, cafwyd ddarlleniad arbennig o’r ddrama gan yr actorion: Owen Alun, Lisa Jen Brown, Nia Gandhi, Elin Gruffudd a Carwyn Jones. Ac yna, roedd cyfle i glywed y cyfarwyddwr, Lee Lyford, a chynllunydd set, Carl Davies, yn rhannu eu gweledigaeth ar gyfer y sioe. Mae’n iawn i ddweud nad yw’r ddau yma yn fyr o syniadau campus!
Bydd yr holl dîm yn parhau i ymarfer yng Nghaerfyrddin cyn symud ymlaen i Pontio Bangor ar gyfer ymarferion technegol ac i agor y sioe. Cymerwch bip i mewn i'r ystafell ymarfer trwy'r detholiad yma o luniau ymarferion – diolch i Betsan (Celf Calon) am daro heibio!
Ydych chi wedi bachu tocyn eto? Mae Pijin / Pigeon ar daith ledled Cymru o 27 Chwefror tan 25 Mawrth felly, yng ngeiriau Alys, “Dewch i’w weld o. Dewch i’w weld!”