Mae Theatr Cymru wrth eu bodd yn cyhoeddi taith ryngwladol newydd, fydd yn mynd â’u cynhyrchiad plant uchel ei glod Dawns y Ceirw i Japan yr hydref yma.
Ar ôl taith dros y gaeaf y llynedd pan swynwyd cynulleidfaoedd ledled Cymru, bydd Dawns y Ceirw – sioe hudolus wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan Casi Wyn – yn cael ei hadfywio ar gyfer taith ryngwladol arbennig fydd yn cyflwyno cynulleidfaoedd Japan i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg drwy theatr, symudiadau a cherddoriaeth.
Mae Dawns y Ceirw yn dilyn taith carw bach unig sy'n canfod dewrder, cyfeillgarwch a pherthyn ar antur hudolus drwy goedwig dan eira. Gan gyfuno perfformio byw, symudiadau a cherddoriaeth wreiddiol, mae'r cynhyrchiad (★★★★ "Abundant wonder", y Guardian) yn cynnig profiad diwylliannol cyfoethog i blant a theuluoedd, gan rannu stori oesol am obaith a charedigrwydd.
Mae’r awdur Casi Wyn yn serennu fel y storïwr a bydd hefyd yn perfformio cerddoriaeth wreiddiol a gyfansoddwyd ganddi'n arbennig ar gyfer y cynhyrchiad. Yn ymuno â hi ar y llwyfan bydd Osian Meilir, dawnsiwr a choreograffydd y mae ei waith yn cynnwys y prosiect o fri rhyngwladol Qwerin, a Ruby Portus, dawnsiwr a choreograffydd fuodd yn Gydymaith Ifanc gyda Sadler's Wells yn 2018/2019. Cafodd y cynhyrchiad ei gyfarwyddo’n wreiddiol gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru Steffan Donnelly a Chyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar y pryd, Matthew William Robinson.
Bydd Dawns y Ceirw yn teithio i Theatr Gyhoeddus Setagaya yn Tokyo ac i Amgueddfa a Pharc Cenedlaethol Ainu UPOPOY yn Hokkaido. Yn UPOPOY, canolfan genedlaethol Japan ar gyfer adfywio a datblygu diwylliant Ainu, bydd Theatr Cymru ac artistiaid Ainu yn cymryd rhan mewn gweithdai cyfnewid diwylliannol, gan archwilio arferion creadigol a ieithoedd lleiafrifedig.
Er mwyn sicrhau bod y perfformiadau’n hygyrch i bawb, bydd ap mynediad iaith arloesol Theatr Cymru, Sibrwd, yn darparu capsiynau caeedig Japaneg mewn amser go iawn yn ystod y perfformiadau, drwy ffonau clyfar aelodau'r gynulleidfa. Bydd y cynhyrchiad hefyd yn cynnwys rhywfaint o storïo mewn Japaneg, wrth i gyfieithiad hyfryd gan Miki Yamazaki gael ei leisio gan Susan Hingley. Bydd hyn yn caniatáu i’r gynulleidfa fwynhau hudoliaeth y cynhyrchiad Cymraeg gwreiddiol a dilyn y stori yn eu hiaith eu hunain.
Meddai Casi Wyn, awdur a pherfformiwr: “Yn y fersiwn newydd yma o’n cynhyrchiad gwreiddiol Dawns y Ceirw, mae dychymyg lliwgar, creadigol ac annwyl dwy wlad, Cymru a Japan, yn gorgyffwrdd. Mae mynd â sioe fel Dawns y Ceirw ar daith, mewn lle wnaeth ysbrydoli gwaith Studio Ghibli, yn ail-gyd-destunoli ein straeon cenedlaethol ni’n hunain. Alla i ddim aros i gael cyflwyno’r sioe ddwyieithog yma i blant a phobl Japan, yn Gymraeg a Japaneg – y gyntaf o’i bath, gan ddechrau yn Tokyo.”
Meddai Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru: “Eleni mi fydd cynyrchiadau Theatr Cymru i’w gweld mewn theatrau o bwys yng Nghaerdydd, Tokyo a Llundain. Ein huchelgais ni yn Theatr Cymru ydy mynd â theatr eithriadol ar daith i ganol cymunedau Cymru, a hefyd cysylltu Cymru – a’r Gymraeg – efo’r byd. Dyma daith ryngwladol gyntaf Theatr Cymru ers dros ddegawd a dw i mor ddiolchgar am gefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Theatr Gyhoeddus Setagaya ac Amgueddfa a Pharc Cenedlaethol Ainu UPOPOY. Dw i'n gyffrous wrth feddwl am gynulleidfaoedd Japan yn cael profi'r sioe hudolus yma ac wrth feddwl am y cyfle i ddathlu artistiaid theatr Cymru yn rhyngwladol. Yn Hokkaido, dw i'n edrych ymlaen i barhau ein partneriaethau efo artistiaid Ainu a gweld dwy iaith leiafrifedig, Cymraeg ac Ainu, yn dod at ei gilydd i rannu diwylliant a chreadigrwydd.”
Mae'r daith nodedig yma’n rhan o raglen ehangach o ddigwyddiadau sy'n nodi Blwyddyn Cymru a Japan, menter sy'n dathlu cyfnewid diwylliannol a chydweithio rhwng y ddwy wlad. Mae'n bosibl diolch i gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, y Cyngor Prydeinig a Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Ddiwylliannol Cymru a Japan 2025, gan helpu i ddod â chreadigrwydd Cymru i lwyfannau’r byd ac i feithrin cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a Japan.
Meddai Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yng Nghyngor Celfyddydau Cymru:
“Dw i wrth fy modd bod Dawns y Ceirw yn mynd ar daith i Japan fel rhan o raglen arddangos anhygoel yr hydref yma. Mae'n anrhydedd cael cefnogi Theatr Cymru i gydweithio ag UPOPOY a’r gymuned Ainu. Rydyn ni wedi bod yn cefnogi artistiaid yng Nghymru i wrando a chydweithio efo ieithoedd Celtaidd eraill a ieithoedd Brodorol yng Nghanada, Iwerddon, Awstralia, Gambia, Seland Newydd a De America fel rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig. Mae'r cywaith yma efo cymuned yr Ainu yn dod â safbwyntiau byd-eang newydd i’r ymdrechion i adfywio ein hieithoedd a'r diwylliannau sy’n rhan ohonyn nhw.”