06/02/2025

Dathlu Dydd Miwsig Cymru

Artwork Dydd Miwsig Cymru

Dydd Miwsig Cymru hapus i chi gyd!

Ry'n ni mor falch o weithio gyda chymaint o gerddorion a chantorion anhygoel Cymru yn ein gwaith - gyda Eadyth Crawford ar Byth Bythoedd Amen a Casi Wyn ar Dawns y Ceirw yn fwyaf ddiweddar. 

Er mwyn dathlu’r diwrnod, ry'n ni wedi creu playlist Spotify Byth Bythoedd Amen i chi – mae’r playlist yn cynnwys tiwns y ddrama, yn ogystal â ffefrynnau’r cast a chriw ar y daith. Ewch draw i wrando:

A hefyd, cofiwch fod 2 o ganeuon hudolus Casi Wyn o'r sioe Dawns y Ceirw ar gael ar Spotify i chi fwynhau gyda'r teulu. 

Mae Dydd Miwsig Cymru yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg, o indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica i hip hop a phopeth arall dan haul - ac ry'n ni'n falch iawn o gefnogi'r diwrnod eleni wrth iddyn nhw ddathlu degawd!