Ar 8 Rhagfyr, bydd modd i bawb weld dwy ddrama lwyfan boblogaidd gan Theatr Cymru ar S4C a’i phlatfformau ffrydio.
Lansiwyd y bartneriaeth rhwng Theatr Cymru a S4C llynedd, ac mae’r ddau sefydliad yn falch gweld y dwyn ffrwyth yn digwydd.
Y ddwy ddrama fydd yn cael eu darlledu yw Parti Priodas a Rhinoseros. Bydd Parti Priodas i’w gweld ar S4C ar 8 Rhagfyr am 9pm, a Rhinoseros ynghyd â Parti Priodas i’w gweld ar blatfformau ffrydio S4C – Clic, YouTube ac iPlayer.
Mae Mared Llywelyn, sy’n actio rhan Lowri, wrth ei bodd bod y ddrama am gael ei darlledu ar S4C:
“Mae'n wych bod Parti Priodas yn mynd i gael ail wynt, a hynny ar S4C.
“O berfformio mewn cae yn Steddfod Boduan i daith ar hyd a lled Cymru, mae wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o'r criw sydd wedi creu'r sioe yma. Wrth siarad gyda chynulleidfaoedd, mae rhywbeth amdano wedi cyffwrdd calonnau. Dwi'n meddwl bod pobl yn gallu uniaethu efo blerwch a throeon trwstan bywydau Idris a Lowri, ac yng nghanol yr hwyl a'r chwerthin mae 'na themâu sydd wirioneddol yn taro rhywun.
“Gobeithio bydd mwy o gydweithio rhwng S4C a'r byd theatr yn y dyfodol. Fel rhywun sy'n mynychu dangosiadau National Theatre Live yn gyson, mae'n ffordd hygyrch i gyflwyno theatr i gynulleidfa newydd. Felly, os fethoch chi'r briodas y tro cyntaf, gobeithio wnewch chi fwynhau'r parti yn fwy na ddaru Idris a Lowri!”
Wedi’i ysgrifennu gan Gruffudd Owen, mae Parti Priodas yn dilyn hynt a helynt dau brif gymeriad sef Lowri (Mared Llywelyn) sydd yn forwyn priodas i’w brawd, ac sy’n poeni am ddyfodol eu fferm deuluol, ac Idris (Mark Henry Davies) sydd yn dychwelyd i Ben Llŷn ar gyfer priodas ei ffrind gyda chyfrinachau all ddifetha’r diwrnod.
Enillodd Parti Priodas wobr UK Theatre am Ragoriaeth Mewn Teithio ac fe’i gyflwynwyd i Theatr Cymru (gynt yn Theatr Genedlaethol Cymru) mewn seremoni yn Llundain fis Hydref 2024. Hon oedd y tro cyntaf yn hanes y gwobrau i gwmni theatr Cymraeg ennill.
Bydd y ddrama Rhinoseros i’w gweld ar y platfformau digidol yn unig. Drama absẃrd o waith Eugene Ionesco wedi’i chyfieithu gan Manon Steffan Ros yw hwn sydd yn serennu Rhodri Meilir fel yr arwr annhebygol.
Dywedodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru:
“Mae ‘na gymaint o gyffro yn gweld cynyrchiadau Theatr Cymru ar y teledu a gwasanaethau ffrydio am y tro cyntaf erioed, a dwi’n ddiolchgar i S4C a Rondo am y cydweithio gwych. Dyma un o sawl ffordd rydym yn ehangu mynediad i’n cynyrchiadau a dathlu talent Cymru. Mae’n rhoi cyfle i gynulleidfaoedd ail-wylio eu hoff sioeau, neu dal fyny os ddaru nhw golli’r sioe ar daith.
“Maen nhw’n gynyrchiadau mor wahanol i’w gilydd, sy’n rhoi blas o amrywiaeth ein rhaglen. Rhinoseros yw addasiad campus Manon Steffan Ros o glasur abswrdaidd o Ewrop am eithafiaeth, sydd yn teimlo yn fwy amserol fyth rwan. Mae Parti Priodas yn ddrama wreiddiol gan Gruffudd Owen, wedi’i leoli ym Mhen Llŷn, yn llawn hwyl a cymeriadu gwych – ac mae’r cynhyrchiad newydd ennill Gwobr UK Theatre.
“Dwi’n edrych ymlaen i chi brofi gwaith beiddgar Theatr Cymru o gyfforddusrwydd eich soffa adra!"
Meddai Geraint Evans, Cyfarwyddwr Cynnwys a Chyhoeddi S4C:
“Mae’n bleser i fedru arddangos rhywfaint o gynnyrch gwych Theatr Cymru ar lwyfannau S4C, ac i gyflwyno perfformiadau byw fel hyn i rai am y tro cyntaf, neu roi cyfle i eraill i wylio eto o’u soffa.
Rwy’n siwr y bydd y gwylwyr yn cael blas ar y cynnwys, ac y bydd hynny yn codi’r awch arnynt i ddychwelyd i’r theatrau i wylio cynyrchiadau Cymraeg byw ar lwyfan.”
Ynghyd â dangos y ddwy ddrama ar ei phlatfformau darlledu, mae S4C hefyd wedi trosi Anfamol gan Rhiannon Boyle - un o gynyrchiadau blaenorol Theatr Cymru - i ddrama deledu lwyddiannus gyda Bethan Ellis Owen yn trosglwyddo ei phrif gymeriad Ani o’r llwyfan i'r sgrîn. Mae S4C yn ddiweddar wedi comisiynu BBC Studios i gynhyrchu ail gyfres o Anfamol yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntaf.
Parti Priodas
Nos Sul, 8 Rhagfyr 21.00
Ar alw o ddydd Sul 8 Rhagfyr: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Theatr Cymru ar gyfer S4C
Rhinoseros
Ar alw o ddydd Sul 8 Rhagfyr: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Theatr Cymru ar gyfer S4C