Mae wedi bod yn gyfnod prysur i ni fel cwmni wrth i ni groesawu aelodau newydd o staff a hefyd ffarwelio â rhai aelodau’r tîm sydd wedi bod yn rhan bwysig o Theatr Gen ers blynyddoedd.
Ry’n ni’n falch iawn o gyflwyno y ddau sydd bellach wrth y llyw yn yr Adran Gynhyrchu - Gareth Wyn Roberts a Caryl McQuilling. Mae’r ddau wedi gweithio gyda’r cwmni ers blynyddoedd fel gweithwyr llawrydd, ac mae’n hyfryd nawr eu croesawu fel aelodau parhaol o staff.
Bydd Gareth yn camu i mewn i rôl Pennaeth Cynhyrchu, gyda Caryl yn gweithio gydag ef fel Rheolwr Cynhyrchu Cwmni. Mae Gareth yn dod atom o’i rôl fel Rheolwr Prosiect i gwmni Wild Creations, ac mae Caryl wedi bod yn brysur yn ddiweddar fel Prif Swyddog Tafwyl gyda Menter Caerdydd. Ry’n ni’n methu aros i weithio gyda’r ddau yma wrth i ni baratoi ar gyfer rhaglen cyffrous 2023/2024!
Ond ry’n ni hefyd yn ffarwelio ag ambell aelod o’r tîm...
Yn ddiweddar, mae tri aelod staff arbennig wedi ffarwelio â’r cwmni. Ar ôl 19 o flynyddoedd, mae Nesta Jones – ein Swyddog Gweinyddiaeth a Chyllid – yn ffarwelio â’r cwmni ac ry’n ni’n dymuno pob hapusrwydd iddi ar ei hymddeoliad. Mae Meinir James – ein Rheolwr Cyllid – hefyd yn camu i lawr (ar ôl 16 mlynedd fel ffrind i'r cwmni a 6 fel aelod staff), er mwyn canolbwyntio’n llawn ar ei rôl fel Cynghorydd Sir i Ward Llangyndeyrn ac i dreulio mwy o amser gyda’i theulu. Ry’n ni hefyd yn dymuno pob lwc i Ffen Jones, ein Swyddog Technegol, sydd yn dechrau ar antur newydd yn Adran Celfyddydau Prifysgol y Drindod Dewi Sant ar ôl 7 mlynedd gyda ni.
Diolch o galon i chi am eich gwaith a’ch cyfeillgarwch, Nesta, Meinir a Ffen – mae'r dair ohonoch chi’n ffrindiau oes i ni gyd. Pob hwyl i’r dyfodol, gan bawb o deulu Theatr Gen.