Ry’n ni’n falch iawn o rannu ein bod wedi penodi Ffion Glyn ac Ann Pari Williams fel Ymddiriedolwyr newydd i Theatr Cymru. Bydd arbenigedd ac angerdd y ddwy yn arbennig o werthfawr i ni fel cwmni.
Yn wreiddiol o Fethel ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, mae Ffion Glyn yn gynhyrchydd theatr, actor a hwylusydd creadigol. Ar ôl graddio mewn Drama ac Astudiaethau Theatr o Brifysgol Birmingham a hyfforddi fel actor yn East 15 Acting School, gweithiodd Ffion fel actor, yn bennaf yn y sector theatr deithiol a theatr awyr agored. Datblygodd ddiddordeb mewn gwaith cyfranogi, gan fynd ati i hwyluso gweithdai creadigol i ystod eang o gyfranogwyr, ar ran sefydliadau yn cynnwys Coram Shakespeare Schools Foundation, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru. Fel cynhyrchydd, roedd yn aelod craidd o dîm cwmni Mewn Cymeriad am bum mlynedd. Mae ei gwaith llawrydd yng Nghymru yn cynnwys cynyrchiadau ar gyfer Taking Flight Theatre, Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Theatrau Sir Gâr. Mae hi ar hyn o bryd yn gweithio fel aelod o dîm cynhyrchu’r Birmingham Rep, fel rhan o raglen Stage One.
Yn enedigol o Fotwnnog ond bellach yn byw yn Y Felinheli, mae byd y celfyddydau o hyd wedi bod yn gefnlen i fywyd Ann Pari Williams. Graddiodd Ann mewn Cymraeg a Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn mynd ymlaen i hyfforddi fel Gweithiwr Cymdeithasol. Cychwynnodd ei gyrfa yn Y Rhondda ac wedyn Y Barri cyn dychwelyd i’r gogledd. Yn fwy diweddar, roedd yn Rheolwr Llesiant yng Nghyngor Gwynedd ac mae bellach yn diwtor cysylltiol gyda Phrifysgol Oxford Brookes ac yn darlithio ar gyrsiau rheoli timau. Bu’n aelod o Fwrdd Codi’r To am ddeng mlynedd ac mae’n aelod o fwrdd Cynnal Gofalwyr ers dwy flynedd. Cwblhaodd MA rhan amser mewn Llenyddiaeth Gymraeg yn 2024. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y cysylltiad rhwng y celfyddydau a llesiant.
Hoffwn hefyd estyn ein diolchiadau i Catherine Rees, Gwyn Williams a Meilir Rhys Williams, sy’n ymadael â’r Bwrdd. Diolch i’r tri am eu hymroddiad, eu mewnwelediad, a'u cefnogaeth ddiflino wrth arwain y cwmni drwy'r blynyddoedd diwethaf.
Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Theatr Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth lywio cyfeiriad strategol y cwmni, cyflawni ein gweledigaeth a chyrraedd ein nodau strategol. Mae croesawu Ffion ac Ann yn dod â safbwyntiau gwerthfawr newydd a fydd yn helpu i lunio dyfodol y cwmni.
Dywedodd Jerry Hunter, Cadeirydd Theatr Cymru:
"Mae'n bleser croesawu ein hymddiriedolwyr newydd, Ann Pari Williams a Ffion Glyn. Yn ogystal â'u diddordeb dwys ym myd y theatr a'u brwdfrydedd tanbaid, mae gan y ddwy rychwant eang o sgiliau a phrofiadau perthnasol a fydd yn hwyluso gwaith ein bwrdd.
"Hoffwn gymryd y cyfle hwn hefyd i ddiolch i'r ymddiriedolwr sy'n ymadael â'n bwrdd ar ôl gwasanaeth hir, sef Catherine Rees, Gwyn Williams a Meilir Rhys Williams. Bu cyfraniadau'r tri yn hynod werthfawr."
Edrychwn ymlaen at weithio gyda'n hymddiriedolwyr newydd wrth i ni barhau i ddod â theatr feiddgar ac ysbrydoledig i'n cynulleidfaoedd.