Rydyn ni’n falch iawn o rannu bod ein cynhyrchiad Byth Bythoedd Amen wedi cyrraedd lefel Canolradd yn y Llyfr Gwyrdd Theatr (Theatre Green Book).
Dyma’r tro cyntaf i Theatr Cymru gyflawni lefel Canolradd, sy’n golygu bod 60% o’r deunyddiau ar y llwyfan wedi’u hailddefnyddio neu eu hailgylchu a bod o leiaf 70% o’r deunyddiau yn cael eu storio ar ôl y cynhyrchiad er mwyn eu defnyddio eto.
Llongyfarchiadau i dîm creadigol a chynhyrchu Byth Bythoedd Amen am gyflawni’r gamp yma, ochr yn ochr â staff y cwmni.
Mae’r Llyfr Gwyrdd Theatr yn fframwaith i gynllunio a mesur cynaliadwyedd yn y sector theatr. Mae’n rhoi cyngor o ran yr arfer gorau i’w ddilyn ym mhob elfen o brosiect / cynhyrchiad er mwyn cyrraedd net sero ac mae tair lefel cyflawni: Mynediad, Canolradd a Lefel Uwch. Yn ddiweddar, cafodd ail argraffiad o’r Llyfr Gwyrdd ei gyhoeddi fel esblygiad o’r fersiwn gwreiddiol a gyhoeddwyd yn 2021.
Fel cwmni diwylliannol cenedlaethol, mae cynaliadwyedd yn un o’n prif flaenoriaethau ac ry’n ni’n ymdrechu i gyflawni’n gwaith mewn ffyrdd mwy cynaliadwy, i leihau ein hôl-troed carbon, ac i gychwyn a hwyluso sgyrsiau a syniadau sy’n ymdrin â’r argyfwng hinsawdd a’r effaith mae’n ei gael ar fywyd yng Nghymru a thu hwnt heddiw. Byddwn yn parhau i weithio tuag at ein hamcanion cynaliadwyedd ar ein cynyrchiadau nesaf.