Ar ôl llwyddiant y perfformiadau cychwynnol yn Eisteddfod Genedlaethol 2024, mae Theatr Cymru yn falch iawn o gyflwyno taith genedlaethol Brên. Calon. Fi, drama newydd gan Bethan Marlow. Mae’r daith yn digwydd yn ystod Mis Pride, a dyma drydedd taith genedlaethol y cwmni eleni.
Y cyntaf o’i fath, dyma fonolog doniol a dirdynnol am gariad a chwant lesbiaidd sydd eisoes wedi derbyn tipyn o glod ("Dyma'r ddrama orau dwi wedi gweld ers tro byd." BBC Radio Cymru). Yn dyner ac yn ddifyr, mae’r ddrama’n mynd â’r gynulleidfa ar daith drwy fywyd carwriaethol y storïwr ‘Fi’ – y crushes cyfrinachol, y caru lletchwith a’r tor-calon blêr.
Gyda’r cyfarwyddwr Rhiannon Mair wrth y llyw unwaith eto, bydd yr actor Lowri Morgan yn dychwelyd i rôl ‘Fi’, storïwr y fonolog sy’n dod i ddeall cymhlethdodau byw'n driw i'w hun wrth dyfu fyny fel tomboy yn y nawdegau. Hefyd yn dychwelyd i’r cynhyrchiad ar ôl llwyddiant yr Eisteddfod llynedd, mae’r Cynllunydd Set a Gwisgoedd, Livia Jones, Cynllunydd Goleuo, Cara Hood, Cynllunydd Sain, Josh Bowles a’r Cyfarwyddwr Corfforol, Cêt Haf.
Dyma ddrama bersonol a gonest gan Bethan Marlow, sy’n un o ddramodwyr gorau Cymru ac sydd eisoes wedi gweithio gyda Theatr Cymru ar nifer o gynyrchiadau gan gynnwys Nyrsys a Pijin | Pigeon. Yn ymateb i’r daith genedlaethol, dywedodd Bethan:
“Ma meddwl bod 'na fwy o bobol yn mynd i weld Brên. Calon. Fi yn llenwi fi hefo llawenydd ac ofn ar yr un pryd. ‘Ydi pobol yn mynd i licio fo? Ydyn nhw'n mynd i ffeindio fo'n funny? Ydio'n ddigon da?’ A wedyn ma 'na ran bach, dewr tu fewn i fi yn deud ‘Yndi’. O'n i rili ishio sgwennu drama am lesbian Gymraeg a dyma sud na'th o ddod allan so... gawn ni weld, ia?”
Mae Brên. Calon. Fi yn rhan o flwyddyn fawr i Theatr Cymru, wrth i’r cwmni gyflwyno 6 cynhyrchiad. Mae Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, wrth ei fodd yn cyflwyno’r fonolog arbennig hon ar daith:
“Ar ôl llond llaw o berfformiadau dan eu sang yn yr Eisteddfod llynedd, dwi mor falch bod y cynhyrchiad gwreiddiol yma am gyrraedd cynulleidfa ehangach ar daith genedlaethol. Mae Bethan Marlow wedi creu stori gynnes am oroesi, tyfu a ffeindio’ch cymuned - gyda pherfformiad gonest a gafaelgar gan Lowri Morgan. Dewch i ddathlu mis Pride efo Theatr Cymru efo’r stori gariad lesbiaidd yma sy’n llawn calon a Chymreictod!”
Bydd capsiynau caeedig dwyieithog ar gael ym mhob perfformiad trwy Sibrwd, sef ap mynediad iaith Theatr Cymru. Mae hefyd perfformiad wedi’i ddehongli trwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar 26 Mehefin yng Nghaerdydd.
Bydd tîm Theatr Cymru hefyd yn cymryd rhan yng ngorymdaith Pride Cymru yng Nghaerdydd ar 21 Mehefin, ar ôl cerdded yn y digwyddiad am y tro cyntaf llynedd.
Datblygwyd Brên. Calon. Fi yn wreiddiol gyda chefnogaeth gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru.