Newyddion 20/12/2024

Blwyddyn i'w Gofio

Production image from Dawns y Ceirw. A dancer dressed as a deer is being showered in confetti by a large snow storm.

Mae 2024 wedi bod yn flwyddyn i’w gofio. Blwyddyn sy’n nodi pennod newydd i ni fel Theatr Cymru. Blwyddyn o deithio, cydweithio a dathlu talent Cymreig. Blwyddyn o waith theatr beiddgar a chyfoes sy’n herio cymdeithas ac yn diddanu’r genedl. 

Ie Ie Ie 
Dechreuodd y flwyddyn gyda thaith genedlaethol o’r cynhyrchiad Ie Ie Ie, yn serennu Eleri Morgan o dan gyfarwyddyd Juliette Manon. Yn archwilio perthnasau iach, chwant a chaniatâd, roedd Ie Ie Ie yn cynnwys cyfweliadau gonest gyda phobl ifanc Cymru am berthnasau a’r amgylchedd ar-lein. Roedd hefyd cyfle i ni berfformio Ie Ie Ie yn Eisteddfod yr Urdd yn hwyrach yn y flwyddyn.

Kiki Cymraeg
Ym mis Mawrth, cynhaliwyd wythnos o ymchwil a datblygu gyda Chymuned Ddawnsfa Cymru (Welsh Ballroom Community). Gan gyfuno dawnsfa, theatr a pherfformiadau gair llafar, roedd y gweithdai yn archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn cwiar yng Nghymru heddiw – gyda pherfformiad sgratsh i gwblhau’r wythnos yn Theatr y Sherman, Caerdydd.

Parti Priodas
Nesaf, aethom â Parti Priodas gan Gruffudd Owen allan ar daith, gyda Mared Llywelyn a Mark Henry Davies yn serennu o dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly. Ar ôl ymateb gwych yn Eisteddfod Genedlaethol 2023, roedd hi’n brofiad arbennig i fynd â’r sioe yma ar daith genedlaethol fel bod mwy o bobl yn gallu mwynhau’r wledd o chwerthin, dawnsio a chariad.
O Ŵyl Gomedi Machynlleth i Glwb Rygbi Llanrwst, roedd cynulleidfaoedd ledled Cymru wrth eu boddau gyda’r comedi hwn – ac yn goron ar y cyfan, enillodd y daith wobr UK Theatre am Ragoriaeth Mewn Teithio.

Yn sgil ein partneriaeth gyda S4C, mae cyfle arall i bobl ledled Cymru wylio’r ddrama arbennig hon gan fod Parti Priodas, a chynhyrchiad Rhinoseros, bellach ar gael ar blatfformau S4C Clic, Youtube a BBC iPlayer.

Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd 2024
I Bontypridd nesaf, gyda rhaglen gyffrous o ddrama, comedi, a sgyrsiau o bob math. Fel rhan o arlwy Mas ar y Maes, roedden ni’n falch iawn o gyflwyno Brên. Calon. Fi, gyda’r Eisteddfod Genedlaethol, monolog ddoniol a thyner gan Bethan Marlow. Gyda’r cyfarwyddwr Rhiannon Mair wrth y llyw, Lowri Morgan oedd yn serennu fel ‘Fi’, storïwr y fonolog sy’n mynd â’r gynulleidfa ar daith o’i bywyd carwriaethol. Ry’n ni’n falch iawn o fynd â Brên. Calon. Fi ar daith genedlaethol yn ystod mis Balchder 2025 – cadwch olwg am fwy o wybodaeth.

Yn adeiladu ar lwyddiant ein cyd-gynhyrchiad diwethaf (Rŵan/Nawr yn 2023), gweithiom gyda Theatr Clwyd unwaith eto i gyflwyno Ha/Ha yng Nghaffi Maes B, sef awr wyllt o ddramâu comedi byr newydd sbon gan Caryl Burke, Mari Elen, Geraint Lewis a Gruffydd Ywain. 

Fy Enw i yw Rachel Corrie
Fel rhan o’n dyhead i greu gwaith Cymraeg sy’n mynd i’r afael â materion cyfoes a sgyrsiau byd-eang, cyflwynwyd pecyn o waith yn yr hydref i godi ymwybyddiaeth am yr argyfwng dyngarol yn Gaza a chreu cysylltiadau creadigol newydd rhwng pobl ifanc yng Nghymru a Phalesteina – gyda throsiad newydd i’r Gymraeg o’r ddrama My Name is Rachel Corrie a phrosiect creadigol gydag ASHTAR Theatre, sef cwmni theatr yn Ramallah, Palestina. Cyflwynwyd trosiad Menna Elfyn o’r ddrama Fy Enw i yw Rachel Corrie, gyda Hannah Daniel fel Rachel o dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly, yng Nghaernarfon, Caerdydd a Chaerfyrddin. Prisiwyd tocynnau’n rhad er mwyn annog cynulleidfaoedd i gyfrannu at elusennau perthnasol. 

Mewn prosiect newydd rhyngwladol rhwng ASHTAR Theatre a Theatr Cymru, bu cyfranogwyr ifanc o'r ddwy wlad yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai, gyda’r bwriad o ddenu sylw i leisiau ieuenctid a meithrin dealltwriaeth rhyng-ddiwylliannol. Gyda chefnogaeth hefyd gan Lenyddiaeth Cymru, penllanw’r prosiect fydd creu cerdd tair-ieithog mewn Arabeg, Cymraeg a Saesneg, yn ogystal â ffilm fer sy’n cynnwys cyfranogwyr ifanc o Gymru a Phalestina. Ry'n ni methu aros i rannu'r gwaith yma gyda chi yn y flwyddyn newydd.

Dawns y Ceirw 
Roedd ein cyd-gynhyrchiad cyntaf gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru – sef Dawns y Ceirw gan Casi Wyn – yn cloi’r flwyddyn. Gan ddenu canmoliaeth fawr, roedd y cynhyrchiad yma i blant 5-9 oed yn cynnwys cerddoriaeth wreiddiol gan Casi Wyn a dawnsio gan Osian Meilir a Sarah ‘Riz’ Golden. Roedd hefyd cyfleoedd i 800 o blant gymryd rhan mewn gweithdai ysgolion yn gysylltiedig â’r sioe.

--- 

Yn ogystal â’r holl waith uchod, roedd ein gwaith cyfranogi yn digwydd ar hyd a lled Cymru. Roedd cyfle i garcharwyr ifanc yng Ngharchar y Parc gymryd rhan mewn gweithdai Criw Creu yn y gwanwyn, ac roeddem hefyd yn cefnogi Mewn Cymeriad gyda gweithdai Betty Campbell mewn ysgolion ledled Cymru. Mae Ar y Dibyn - ein prosiect hirdymor i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ddibyniaeth - yn mynd o nerth i nerth gyda phartneriaid ychwanegol a gweithdai yn cychwyn yn ardal Aberystwyth bellach. Buom hefyd yn cefnogi Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gyda'u cynhyrchiad Dal Gafael / Hold On. A bu’r tîm hefyd yn rhan o orymdaith Pride Cymru am y tro cyntaf erioed eleni, gyda baneri cynaliadwy hyfryd gan Livia Jones.

Hoffem ddiolch o galon i bawb sydd wedi bod yn rhan o’n gwaith eleni, boed hynny fel artistiaid, gweithwyr llawrydd neu aelodau cynulleidfa ledled Cymru. Edrychwn ymlaen at flwyddyn arall o roi Cymru a’i phobl ar y map yn 2025. 

Nadolig Llawen i chi gyd!