Mae Theatr Gen yn falch iawn i fod yn rhan o Eisteddfod yr Urdd eleni gyda gwaith cyfranogi a chyfleoedd i ddramodwyr ifanc. Hefyd am y tro cyntaf, bydd Steffan Donnelly, ein Cyfarwyddwr Artistig, yn beirniadu Medal Ddrama’r Urdd ac yn dewis ein Dramodydd Preswyl Ifanc nesaf. Dros y misoedd diwethaf, ry’n ni wedi bod yn falch iawn o gefnogi chwech dramodydd i fod yn rhan o Brosiect 23, ar y cyd ag Eisteddfod yr Urdd. Mae’r prosiect hwn wedi rhoi’r cyfle i ddramodwyr ysgrifennu sgriptiau byrion yn seiliedig ar chwedlau a straeon Sir Gâr, i'w perfformio’n fyw gan blant ysgolion cynradd y sir yn nigwyddiad Chwilio’r Chwedl ar faes Eisteddfod yr Urdd ar 28 Mai. Mae wedi bod yn bleser i ni weithio gyda’r dramodwyr Del Evans, Martha Ifan, Mirain Jones, Mared Roberts, Hefin Robinson a Rhiannon Williams i greu sgriptiau ac i fwynhau mentoraeth gan y dramatwrg Sarah Bickerton fel rhan o’r broses. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect a‘r perfformiadau byw, ewch i wefan Eisteddfod yr Urdd: Chwilio'r Chwedl | Urdd Gobaith Cymru
Ry’n ni hefyd yn falch o ddod â Criw Creu i faes Eisteddfod yr Urdd eleni. Bellach yn ei drydedd flwyddyn, mae’r prosiect arbennig hwn – ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru – yn cynnig cyfleoedd creadigol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Eleni, ry’n ni’n cydweithio gyda dwy ysgol yng Nghaerfyrddin, sef Ysgol Bro Myrddin ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth. Bydd cyfle i ddisgyblion o’r ddwy ysgol gyfansoddi cerdd o dan arweiniad yr awdur Elinor Wyn Reynolds, gyda’r gobaith o arddangos y gwaith ar ffurf fideo yn Eisteddfod yr Urdd. Darllenwch fwy am Criw Creu yma: Theatr Genedlaethol Cymru | Criw Creu '23
Ers 2021, mae enillydd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd wedi ymuno â’r cwmni fel Dramodydd Preswyl Ifanc ac yn mwynhau blwyddyn o fentoraeth a chyfleoedd datblygu gyda ni. Eleni, bydd Steffan Donnelly, ein Cyfarwyddwr Artistig, yn rhan o’r panel o feirniaid fydd yn darllen gwaith y dramodwyr ifanc ac yn dewis y goreuon. Dywedodd Steffan: “Dwi’n edrych ‘mlaen yn fawr at gael bod yn rhan o banel beirniadu Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd eleni ac at groesawu Dramodydd Preswyl Ifanc newydd i Theatr Gen. Mae magu’r genhedlaeth nesaf o ddramodwyr iaith Gymraeg yn hollbwysig i ni fel cwmni a dwi wedi bod wrth fy modd yn darllen gwaith gan ddramodwyr ifanc talentog y wlad dros yr wythnosau diwethaf. Pob lwc i bawb sy’n cystadlu!”
Gallwch glywed gan ein Dramodwyr Preswyl Ifanc blaenorol fan hyn: Theatr Genedlaethol Cymru | Newyddion a Blogiau
Edrychwn ymlaen at fod ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri ym mis Mai – welwn ni chi ‘na!
Newyddion + blogiau diweddaraf
-
27/09/2024 NewyddionEnwebiad UK Theatre am Wobr Rhagoriaeth Mewn Teithio
Mae’n fraint i ni gael ein henwebu gan UK Theatre ar gyfer gwobr Rhagoriaeth Mewn Teithio.
-
19/09/2024 NewyddionCyhoeddi Fy Enw i yw Rachel Corrie a phrosiect creadigol newydd gydag ASHTAR Theatre
Yr hydref hwn, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnal pecyn o waith sy’n codi ymwybyddiaeth am yr argyfwng dyngarol presennol yn Gaza ac yn creu cysylltiadau creadigol newydd rhwng pobl ifanc yng Nghymru a Phalesteina.