Newyddion 02/12/2023

Swyno plant Cymru gyda gweithdai a neges bwysig

Image of Krystal S Lowe with young pupils at Swyn workshops. Krystal is a black woman in her thirties with short afro hair. She wears a turquoise tshirt with a brown cardigan over the top. She is holding onto a large copy of the book Whimsy, which features an illustration of a young black girl with an afro. Standing on either side of her is a young girl.

Mae taith genedlaethol Swyn ar ei hanterth ar hyn o bryd – ond mae awdur a pherfformiwr y sioe, Krystal S. Lowe, a’n Cydlynydd Cyfranogi, Sian Elin James, eisoes wedi teithio i ysgolion ledled Cymru gyda neges bwerus y cynhyrchiad o ddathlu gwahaniaeth a meithrin hunan-gariad.

Fis Hydref, treuliodd Krystal a Sian Elin bythefnos yn ymweld ag ysgolion cynradd gyda gweithdai drama a dawns yn seiliedig ar fyd arbennig Swyn. Roedd cyfle i ddisgyblion ddarganfod mwy am fyd natur, cyfeillgarwch, a defnyddio’u dychymyg i greu cymeriadau newydd.

Image of a young black girl with afro hair tied  into two ponytails at the back of her head. She is wearing a light blue polo shirt under a grey pinafore. She holds her hand to her mouth her palm half closed.

Yn ystod eu siwrnai, teithiodd Krystal a Sian Elin bron at 500 milltir – gan ymweld â 9 ysgol a gweithio gyda mwy na 300 o blant. Ac yn ôl pob sôn, roedd tipyn o hwyl a sbri ar hyd y ffordd! 

Dywedodd Krystal:  

“Roedd hi’n brofiad anhygoel i ymweld â mwy na 300 o blant Cymraeg eu hiaith cyn taith Swyn ledled Cymru. Roedd pob un o’r plant bywiog a bendigedig yma wedi mwynhau drama a dawns gyda Sian Elin a minnau. Gyda’n gilydd, gwnaethom archwilio antur anifeiliaid Swyn a mynegiant emosiynol. Dwi’n edrych ‘mlaen at weld nhw gyd eto wrth i ni deithio Cymru y gaeaf hwn!”  

Dywedodd Sian Elin:  

“Am fraint i gael gweithio gyda Krystal a phlant bach ar draws Cymru gyda’r gweithdai arbennig yma! Diolch i’r 9 ysgol am y croeso cynnes ac i’r disgyblion am yr holl hwyl a sbri yn y sesiynau – roedd hi’n wych cael cyfle i gwrdd â chi gyd. Diolch arbennig i Krystal am fod yn bartner gweithdy arbennig ac am greu byd Swyn i ni gyd!” 

Diolch i chi’ch dwy am swyno plant ledled y wlad gyda’ch gwaith! Os ydych chi eisiau ymuno yn yr hwyl a dod i wylio'n sioe arbennig, cliciwch isod i fachu tocynnau.

A group of young children during the Swyn workshops. They are stood together smiling, with their arms stretched up. They are all dressed in school uniform.