Newyddion 13/11/2023

Swyn: Plethu’r Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i danio dychymyg cynulleidfaoedd ifanc

Image of Krystal S Lowe, Sarah Adedeji and Aisha-May Hunte in rehearsals. Krystal is a black woman with short afro hair. She is wearing a white sweater. Sarah is a black woman with long, braided brown hair. She wears a black sweater with an illustration of a teddy on the front. Aisha is a mixed race young person with long brown hair. They are wearing a white top and white tracksuit pants. The three of them are holding bird shaped patterned objects up into their air and looking up at them smiling.

Y gaeaf hwn, bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn diddanu plant ledled Cymru gyda Swyn, sef stori aeafol arbennig a dwyieithog mewn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a Chymraeg. Yn llawn hud, lledrith a dawns, dyma addasiad o Whimsy gan Krystal S Lowe, dan gyfarwyddyd Rhian Blythe.

Krystal S Lowe ei hun fydd yn serennu fel Swyn, merch fach sy’n mynd ar antur arbennig trwy fyd natur. Eisoes yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd Cymru fel dawnswraig ac artist, bydd hi hefyd yn creu’r coreograffi i’r cynhyrchiad.


Yn ymddangos ochr yn ochr â Krystal, bydd dau storïwr sy’n adrodd y stori trwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a’r Gymraeg. Y dawnsiwr a’r bardd Byddar Sarah Adedeji fydd yn adrodd y stori trwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a’r actor Aisha-May Hunte sy’n ymuno fel y storïwr Cymraeg. Bydd y cast yn dod ag anifeiliaid a chymeriadau direidus eraill byd Swyn yn fyw trwy ddawns, theatr a stori.

Wrth baratoi i ddod â Swyn i’r llwyfan eto, meddai Krystal S Lowe:


“Mae Swyn wedi bod gyda fi ers 10 mlynedd, a phob blwyddyn heb os, mae fy nghariad tuag ati wedi tyfu yn fwy fyth! Mae cael y cyfle i gymryd y cam nesaf ar ei siwrne trwy’r byd gaeafol hwn yn teimlo’n arbennig iawn. Dwi mor ddiolchgar i Theatr Genedlaethol Cymru am drin Swyn a fi gyda chymaint o ofal trwy’r holl broses. Dw’i methu aros i chi fynd ar antur gyda hi!”

A graphic introducing the cast of Swyn. From right to left, Krystal S Lowe's headshot. Krystal is a black woman with short afro hair, she is smiling. Next to hers is Sarah Adedeji's headshot. Sarah is a young black woman with long, red braided hair. Next to her is Aisha-May's headshot. They are a young person with long dark hair.

Rhian Blythe sydd wrth y llyw fel Cyfarwyddwr. Fel actores, roedd Rhian yn un o actorion craidd Theatr Genedlaethol Cymru pan sefydlwyd y cwmni yn 2003. Yn ddiweddar, mae wedi ymuno â’r cwmni fel Cyfarwyddwr Cyswllt a dyma fydd y cynhyrchiad cyntaf iddi gyfarwyddo yn y rôl newydd hon.


Bydd tîm creadigol arbennig yn dod â byd hudolus Swyn yn fyw. Stella-Jane Odoemelam sydd yn cynllunio’r set a’r gwisgoedd, yn rhoi bywyd i’r anifeiliaid sy’n rhan o stori Swyn ac yn dod â hud a lledrith y gaeaf i’r llwyfan, ochr yn ochr â’r Cynllunydd Goleuo Elanor Higgins. Kizzy Crawford sy’n ymuno â’r tîm i gyfansoddi’r gerddoriaeth.

A graphic with headshots of the creative team. From left to right: Rhian Blythe, Director. Rhian is a white woman in her thirties with strawberry blonde hair. Kizzy Crawford, Composer. Kizzy is a black woman with afro hair, tied up into a bun at the top of her head. Elanor Higgins, Lighting Designer. Elanor is a white woman with bright red hair. She wears dark rimmed glasses. Stella Jane Odoemelam, Set and Costume Designer. Stella is a black woman with brown eyes and long, dark hair.

Gyda’r criw ar ddechrau wythnos olaf ymarferion Swyn, meddai Rhian Blythe:

“Chwarae a darganfod, dyma i mi yw hanfod proses ymarfer. Mae plant yn feistri ar hyn wrth gwrs, yn llawn chwilfrydedd, yn procio a chwestiynu. Am fraint felly yw cael creu theatr i’r meddyliau ifanc chwilfrydig yma. Fy ngobaith yw y bydd y sioe yn deffro’r dychymyg ac yn herio plant i beidio byth a rhoi’r gorau i chwarae ac i ddarganfod.”

Mae Swyn yn adrodd stori merch ifanc sy’n mynd ar antur trwy fyd natur ac yn cwrdd â chriw o anifeiliaid arbennig ar y ffordd. Ar ôl llwyddiant y llyfr gwreiddiol gan Krystal, cyflwynwyd y fersiwn llwyfan cyntaf o Whimsy yn 2019, a teithiwyd fersiwn dwyieithog mewn BSL a Chymraeg am y tro cyntaf yn 2022. Mae’n bleser gallu cyflwyno’r stori arbennig yma yn y Gymraeg a BSL i gynulleidfaoedd ifanc ledled Cymru, wedi’i ysgrifennu gan Krystal S Lowe, gyda chyfieithiad gan Melangell Dolma sydd hefyd wedi gweithio fel Dramatwrg ar y prosiect.

Image of Rhian Blythe in rehearsals. Rhian is a white woman in her forties. She has strawberry blonde hair tied back into a ponytail. She is wearing a black and white striped jumper.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn ymfalchïo mewn cyflwyno cynyrchiadau i blant Cymru, ac meddai’r Cyfarwyddwr Artistig Steffan Donnelly:


“Mae stori arbennig Swyn wedi cydio ymhob un ohonom ni ers ei ddarllen – mae’n fraint cael cyflwyno’r fersiwn gaeafol yma i gynulleidfaoedd ifanc ledled Cymru gyda Krystal. Ry’n ni’n angerddol am gyflwyno straeon newydd a rhoi platfform i leisiau sydd ddim yn cael eu clywed yn ddigon aml ar y llwyfan. Dwi methu aros i blant Cymru gael eu swyno a’u croesawu i fyd Swyn yn y sioe arbennig hon sy’n cyfuno Iaith Arwyddion Prydain (BSL) â’r Gymraeg.”


Ochr yn ochr â’r sioe arbennig hon i blant, mae Krystal a Sian Elin Williams, Cydlynydd Cyfranogi y cwmni, wedi bod wrthi’n cynnal gweithdai dawns a drama mewn ysgolion ledled Cymru. Dros gyfnod o bythefnos yn ystod mis Hydref, teithiodd y ddwy i 9 ysgol, gan ddod â stori Swyn a negeseuon hunan-bositifrwydd at fwy na 300 o blant.

Am fwy o wybodaeth ar y daith, ac i archebu'ch tocynnau, cliciwch yma.

Am ymholiadau’r wasg, cysylltwch ag Elin Cain, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Theatr Genedlaethol Cymru:


elin.cain@theatr.com | +44 (0)7903 842 617