Ry'n ni'n falch iawn o gyhoeddi’r cast a’r tîm creadigol talentog fydd yn dod â’r cynhyrchiad, Rhinoseros, i lwyfannau ledled Cymru yn ystod tymor yr hydref. Yn llawn hiwmor annisgwyl a thensiwn hunllefus, bydd y cwmni yn cyflwyno’r campwaith absẃrd hwn gan Eugène Ionesco yn yr addasiad cyntaf i’r Gymraeg gan yr awdur adnabyddus Manon Steffan Ros (Llyfr Glas Nebo - enillydd medal Carnegie) ac o dan gyfarwyddyd ei Gyfarwyddwr Artistig, Steffan Donnelly.
Mae Rhodri Meilir (Y Sŵn; In My Skin; Craith/Hidden) yn serennu fel yr arwr annhebygol Bérenger, gyda Bethan Ellis Owen (Anfamol; Pobol y Cwm; Nyrsys) yn camu i rôl ei ffrind gorau. Yn ymuno â’r cast i ddod â rhai o gymeriadau lliwgar y ddrama yn fyw, bydd wynebau adnabyddus Dafydd Emyr (Guys and Dolls; Hollti; Y Tad), Ioan Gwyn (Pobol y Cwm; Rownd a Rownd; The Tempest), Eddie Ladd (Fy Ynys Las; Dawns Ysbrydion; Amser | Time), Glyn Pritchard (King Lear; Y Cylch Sialc; Coronation Street) a Victoria Pugh (Rownd a Rownd; Craith/Hidden; Deffro’r Gwanwyn). Bydd y comediwr, awdur ac actor Priya Hall (Beena and Amrit) hefyd yn camu i’r llwyfan yn ei rôl gyntaf ym myd theatr Gymraeg.
Mae’r Cyfarwyddwr Steffan Donnelly hefyd wedi ymgynnull tîm talentog o arbenigwyr creadigol i wireddu’r cynhyrchiad newydd hwn. Bydd Cai Dyfan, Cynllunydd y Set a’r Gwisgoedd, yn dod â byd caotig a dystopaidd y ddrama i’r llwyfan, ochr yn ochr â’r Cynllunydd Goleuo Ceri James a’r Cynllunydd Sain a Chyfansoddwr Dyfan Jones. Hefyd yn ymuno â’r tîm creadigol mae Melangell Dolma fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Nia Lynn fel Cyfarwyddwr Llais a Catherine Alexander fel Cyfarwyddwr Symud.
Wrth baratoi at ddechrau ymarferion Rhinoseros, meddai Steffan Donnelly:
“Wrth i mi gyfarwyddo fy nghynhyrchiad teithiol cyntaf fel Cyfarwyddwr Artistig, mae’n fraint i mi weithio gyda’r fath dalent, profiad ac ymroddiad sydd i’w gael gan y criw arbennig hwn o actorion ac artistiaid. Maen nhw i gyd yn arbenigwyr ar eu crefft a dwi’n gwybod y byddan nhw – gyda chefnogaeth tîm gwych Theatr Gen - yn cynnig profiad arbennig iawn i gynulleidfaoedd ledled Cymru yr hydref hwn. Dwi wedi bod yn awyddus i gyflwyno addasiad Cymraeg o Rhinoseros ers amser hir. Yn ogystal â bod yn chwip o ddrama sy’n llawn hwyl a hiwmor, mae’r themâu tywyll am ddirywiad cymdeithas ac eithafiaeth wleidyddol yn teimlo’n ofnadwy o berthnasol ar hyn o bryd. Mae’n stori sy’n cwestiynu’r perthynas rhwng unigolion a chymdeithas – beth yw’r gost o wrthod cydymffurfio?”
Mor berthnasol nawr ag erioed, mae Rhinoseros yn sylwebu ar gymdeithas, eithafiaeth a sut y gall casineb ledaenu fel feirws. Fesul un, caiff holl drigolion y pentref eu hudo gan drefn newydd a’u trawsnewid i mewn i fwystfilod – ond mae un dyn yn gafael yn dynn yn ei hunaniaeth ac yn gwrthod ildio.
Dyma addasiad cyntaf y ddrama enwog hon i’r Gymraeg a hynny dan ofal yr amryddawn Manon Steffan Ros. Wedi’i ysgrifennu yn wreiddiol gan y dramodydd Ionesco yn Ffrangeg, roedd y cynhyrchiad Saesneg cyntaf yn 1960 wedi ei gyfarwyddo gan Orson Welles gyda Laurence Olivier yn y cast, ac roedd ffilm Hollywood yn ddiweddarach gyda Gene Wilder yn chwarae'r brif ran.
Bydd Sibrwd, ap mynediad iaith Theatr Genedlaethol Cymru, ar gael ym mhob perfformiad ar hyd y daith i dywys y gynulleidfa drwy’r stori, pa bynnag mor rugl ydynt yn yr iaith Gymraeg. Bydd perfformiadau gyda dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd a Bangor. Yn ogystal, cynhelir sgyrsiau cyn-sioe ar gyfer dysgwyr Cymraeg cyn rhai perfformiadau, gyda gweithdai creadigol ar gael ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion.