Newyddion 08/02/2024

Parti Priodas: Ar Daith Ebrill a Mai 2024

A man and woman sit on the floor with dazed expressions. The man is wearing a suit with a messy tie and the woman is wearing a soft pink floor-length dress and wellies. There is a messy table behind them covered in empty bottles, ruined flower displays and a large candelabra that has fallen over. On the floor around them are balloons, confetti and a broken disco ball.

Ar ôl llwyddiant ysgubol yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd y llynedd, ry'n ni'n falch o gyhoeddi y bydd Parti Priodas gan Gruffudd Owen yn teithio Cymru y gwanwyn hwn.

Mae Parti Priodas yn chwip o ddrama gomedi sy’n dilyn hynt a helynt Lowri ac Idris – gwesteion anfodlon mewn priodas farcî ym Mhen Llŷn. Gydag ein Cyfarwyddwr Artistig Steffan Donnelly yn ail-gydio yn yr awenau, ry'n ni hefyd yn falch iawn o groesawu’r artistiaid Mared Llywelyn a Mark Henry Davies yn ôl i’r llwyfan.

Roedd galw mawr am y ddrama ddoniol hon yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol gyda Chaffi Maes B dan ei sang ym mhob perfformiad – a hyd yn oed y Brif Weinidog Mark Drakeford yn rhan o’r gynulleidfa. Cafodd y ddrama ei ddewis fel Uchafbwynt y Flwyddyn gan Radio Cymru, yn nodi perfformiadau gwych a stori ddoniol sy’n dal y dychymyg. Bellach, ry'n ni wrthi’n gweithio ar fersiwn teithiol o’r sioe fydd yn agor yn Theatr y Sherman, Caerdydd, ym mis Ebrill cyn teithio’r wlad.

Wrth rannu’r newyddion am y daith genedlaethol, dywedodd Steffan Donnelly:
Parti Priodas oedd ‘smash hit’ yr Eisteddfod flwyddyn ddiwetha’ ac felly ry’n ni mor gyffrous i fynd â hi ar daith genedlaethol fel bod mwy yn gallu mwynhau’r wledd o chwerthin, dawnsio a chariad.

Mae datblygu sgwennu newydd a pherthnasol yn un o brif flaenoriaethau Theatr Gen ac mae drama grefftus Gruffudd yn defnyddio pŵer unigryw comedi i wneud i ni feddwl – meddwl am ein perthynas efo adra, yr argyfwng tai haf a thrywydd bywyd.

Dwi methu aros i weithio efo Mared a Mark eto a chwerthin efo cynulleidfaoedd ar draws Cymru – o Ŵyl Gomedi Machynlleth i Glwb Rygbi Nant Conwy. Os ydych chi erioed wedi delio efo ochrau chwithig a chwareus mewn priodasau, dewch i weld y sioe yma!”

Mae’r cwmni hefyd yn cydweithio gyda’r Cynllunydd Set a Gwisgoedd Luned Gwawr a’r berfformwraig a dawnswraig amlddisgyblaethol Cêt Haf fel Cyfarwyddwr Symud unwaith eto. Bydd y cynhyrchiad yn cynnwys cerddoriaeth wreiddiol gan y cyfansoddwr a’r cerddor Sam Humphreys ac mae’r cwmni yn falch o groesawu’r Cynllunydd Golau Jane Laljee  i’r tîm.

Roedd Gruffudd yn aelod o Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Gen yn 2018-2019. Ers hynny, mae Gruffudd wedi bod yn gweithio dan gomisiwn gyda’r cwmni i barhau i ddatblygu’r ddrama arbennig hon.

Dywedodd Gruffudd:
“Mae Parti Priodas yn ddrama-gomedi am berthyn, unigedd a gneud ffŵl o’ch hun ar y llawr dawnsio! Ar ôl cael ei llwyfannu am y tro gyntaf ar faes Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, dwi mor falch bod Lowri, Idris (a holl gymeriadau brith y briodas!) yn cael mynd ar daith drwy Gymru.

Dwi’n ddiolchgar iawn i’r Theatr Genedlaethol am y cyfle i ddatblygu’r ddrama hon fel rhan o’r cynllun Grŵp Dramodwyr Newydd ac am gywain pobol greadigol wych i lwyfannu’r cyfan. Iechyd da a mwynhewch y briodas!”

Bydd capsiynau Cymraeg a Saesneg ar gael yn y perfformiadau yng Nghaerdydd a Gŵyl Gomedi Machynlleth – a bydd Sibrwd, ein ap mynediad iaith, ar gael ym mhob berfformiad arall.