Newyddion 16/05/2024

ie ie ie yn Eisteddfod yr Urdd

A person holds an extravagant birthday cake with cherries on top and fondant letters saying PENBLWYDD HAPUS. They are holding a handful of cake to their mouth. There are four spotlights above their heads.

Pwy sy’n ffansi dro i Meifod gyda ni? Ie. Ie? Ie!

Ar ôl teithio ysgolion a theatrau ddechrau’r flwyddyn, mae Ie Ie Ie yn dod i Eisteddfod yr Urdd eleni fel rhan o Ŵyl Triban.

 

Gyda’r actores a chomedïwr anhygoel Eleri Morgan wrth y llyw, mae Ie Ie Ie yn archwilio perthnasau iach, chwant a chaniatâd mewn ffordd feddylgar a chwareus – ac yn galon i’r cynhyrchiad, mae ffilmiau byrion wedi’u creu ar y cyd â phobl ifanc ledled Cymru yn trafod rhamant a’r byd sydd ohoni.

 

Dyma’r tro cyntaf erioed i Theatr Gen fynd â sioe i Eisteddfod yr Urdd ac ry’n ni’n falch o wneud hynny gyda’r darn pwysig hwn am brofiadau bywyd go iawn pobl ifanc, sy’n ceisio newid y naratif o gwmpas cyd-synio.

 

"Archwiliad doniol, heriol a phwysig o gydsyniad ... nid yw’n or-ddrwm, or-ffraeth nag or-ddifrifol – mae’n berffaith!" Arts Scene Wales

 

"Gogoneddus oedd clywed pobl ifanc yn siarad yn groyw... yn ddewr a gyda gonestrwydd." BBC Radio Cymru

Production image from Ie Ie Ie, featuring a person grinning. A quote is overlaid saying: "Theatr Genedlaethol Cymru has given us hope for a better theatrical future for Wales, and now it's giving us hope for a more empathetic and kind one too."

Wedi'i gyfarwyddo gan Juliette Manon a’i addasu i’r Gymraeg gan Lily Beau, mae Ie Ie Ie yn seiliedig ar Yes Yes Yes; sioe fyw arobryn gan y gwneuthurwyr theatr o Aotearoa/Seland Newydd, Karin McCracken ac Eleanor Bishop.

 

Bydd Ie Ie Ie ymlaen yn Yr Arddorfa ar y Maes am 1.30pm ar 31 Mai 2024. Am ddim gyda thocyn i’r Maes – dewch draw!

 

Mae Ie Ie Ie wedi’i greu ar gyfer pobl ifanc 14 oed a hŷn – ac mae’n cynnwys iaith gref, themau aeddfed a thrafodaethau am rhyw, pornograffi, ymosodiadau rhywiol a thrais.

 

Wrth ddatblygu’r cynhyrchiad a gweithio gyda chyfranogwyr ifanc ar draws y wlad, mae’r cwmni wedi derbyn hyfforddiant a chefnogaeth ymgynghorol gan y mudiad Brook Cymru, elusen iechyd rhywiol i bobl ifanc. Os ydych chi wedi’ch effeithio gan themâu’r cynhyrchiad, mae cymorth bellach ar gael trwy wefan Brook: brook.org.uk.