Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi ei bod wedi ennill Gwobr UK Theatre am Ragoriaeth Mewn Teithio ar gyfer taith Parti Priodas eleni. Derbyniodd y cwmni y wobr mewn seremoni wobrwyo yn Llundain ar 20 Hydref 2024. Dyma'r tro cyntaf yn hanes y gwobrau i gwmni theatr Cymraeg ennill.
Ar ôl llwyddiant aruthrol yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan 2023, trefnwyd taith helaeth i’r ddrama gomedi arbennig yma gan Gruffudd Owen, yn serennu Mark Henry Davies a Mared Llywelyn. Gyda’r nod o fynd mor agos â phosib at stepen drws ein cynulleidfaoedd, bu’r cynhyrchiad yn teithio i ofodau theatr ledled Cymru a syth i galonnau’r cymunedau gyda pherfformiadau mewn clwb rygbi ac yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth. Cododd y tîm i’r her o gynllunio ac addasu i ofodau gwahanol iawn tra’n sicrhau’r un safon cynhyrchu ym mhob lleoliad.
Roedd galw mawr am y cynhyrchiad ar hyd y wlad, gydag ymateb bositif iawn gan gynulleidfaoedd - a hyd yn oed gofyn am berfformiad ychwanegol yn Neuadd Dwyfor ar ddiwedd y daith.
Wrth ymateb i’r llwyddiant, dywedodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni:
“Roedd siarad Cymraeg ar lwyfan Gwobrau UK Theatre wrth dderbyn gwobr am Ragoriaeth Mewn Teithio yn brofiad gwefreiddiol. Mae'r wobr yn ddathliad o uchelgais y cwmni a'r gwaith artistig arbennig rydym yn cynhyrchu. Rydw i mor falch o dîm gweithgar Theatr Genedlaethol Cymru, yr artistiaid a llawryddion anhygoel sydd yma, a’n cynulleidfaoedd brwdfrydig.
Roedd Parti Priodas yn gynhyrchiad newydd o ddrama wreiddiol, yn defnyddio comedi i drafod materion argyfyngus yng nghefn gwlad Cymru. Hoffwn ddiolch i bawb wnaeth gydweithio i greu a theithio’r sioe hynod boblogaidd a phwerus hon, yn enwedig yr awdur Gruffudd Owen a’r perfformwyr Mared Llywelyn a Mark Henry Davies.”
Ychwanegodd Angharad Jones Leefe, Cyfarwyddwr Gweithredol y cwmni:
“O gostau i gynaliadwyedd, mae’n gyfnod heriol i deithio theatr yng Nghymru ond mae’n barhau i fod wrth galon ein gweledigaeth fel cwmni. Roedd yn brofiad anhygoel i dderbyn gwobr sy'n cydnabod pwysigrwydd teithio i'r sector theatr a'n hymrwymiad parhaus i deithio theatr yng Nghymru a thu hwnt. Diolch o galon i'r cynulleidfoaedd brwd sy'n cefnogi ein gwaith."
Hoffai Theatr Gen ddiolch o waelod calon i’r holl artistiaid a llawryddion anhygoel oedd yn rhan o’r cynhyrchiad llwyddiannus:
Cast: Mark Henry Davies a Mared Llywelyn
Awdur: Gruffudd Owen
Cyfarwyddwr: Steffan Donnelly
Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Gwawr
Cynllunydd Goleuo: Jane Lalljee
Cyfansoddwr a Chynllunydd Sain: Sam Humphreys
Cyfarwyddwr Llais: Marged Sion
Cyfarwyddwr Symud: Cêt Haf
Awdur Sibrwd: Chris Harris
Rheolwr Llwyfan ar y Llyfr: Carys-Haf Williams
Peiriannydd Goleuo: James O’Neill
Peirannydd Sain: Guto Evans
Rhaglennydd Goleuo: Cara Hood
Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol: Lleucu Williams
Capsiynydd: Elen Mair Thomas
Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain: Cathryn McShane
Mae UK Theatre yn sefydliad aelodaeth blaenllaw ar gyfer theatr a’r celfyddydau perfformio. Fel rhan o’u gwaith, maen nhw’n hybu rhagoriaeth, datblygu proffesiynol ac yn ymgyrchu dros wella gwytnwch a chynyddu cynulleidfaoedd ledled y sector. Mae’r wobr Rhagoriaeth Mewn Teithio yn cydnabod gwaith pwysig cwmnïau teithiol a’u cyfraniadau at wytnwch y diwydiant celfyddydol. Roedd y cwmnïau rhagorol ETT (English Touring Theatre) a Wise Children hefyd wedi’u henwebu yn yr un categori.
Yn ystod y cyfnod gwobrwyo (14 Awst 2023 – 28 Awst 2024), bu Theatr Genedlaethol Cymru yn llwyfannu 92 o berfformiadau mewn 50 lleoliad gwahanol yng Nghymru, gan gyrraedd mwy na 20,000 o bobl gyda’n rhaglen o berfformiadau a phrosiectau cyfranogi. Yn ogystal â Parti Priodas, roedd y cynyrchiadau yn ystod y cyfnod yn cynnwys Rhinoseros, Swyn, Ie Ie Ie a Brên. Calon. Fi – a lansiad partneriaeth datblygu gwaith comedi gyda Theatr Clwyd, Ha/Ha.
Yn ddiweddar, mae’r cwmni wedi rhannu pecyn o waith i godi ymwybyddiaeth am yr argyfwng dyngarol yn Gaza, gyda pherfformiadau o drosiad newydd o Fy Enw i yw Rachel Corrie a phrosiect digidol rhwng pobl ifanc o Gymru a Phalestina ar y cyd ag ASHTAR Theatre yn Ramallah. Nesaf, bydd y cwmni’n cyflwyno Dawns y Ceirw gan Casi Wyn, sef cyd-gynhyrchiad i blant ysgol gynradd gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Bydd y cwmni yn cyhoeddi rhaglen 2025 yn fuan.
Newyddion + blogiau diweddaraf
-
22/10/2024 BlogEdrych nôl ar Fy Enw i yw Rachel Corrie
Diolch i’r holl artistiaid a llawryddion sydd wedi bod yn rhan o’r cynhyrchiad a’r holl gynulleidfaoedd sydd wedi dod i wylio.
-
27/09/2024 NewyddionEnwebiad UK Theatre am Wobr Rhagoriaeth Mewn Teithio
Mae’n fraint i ni gael ein henwebu gan UK Theatre ar gyfer gwobr Rhagoriaeth Mewn Teithio.