Blog 22/10/2024

Edrych nôl ar Fy Enw i yw Rachel Corrie

Production image for Fy Enw i yw Rachel Corrie. A woman is standing on stage wearing a check shirt, tshirt, jeans, heavy boots and a keffiyeh. Behind her is a bedroom scene.

Mae daith gyfyngedig Fy Enw i yw Rachel Corrie bellach wedi dod i ben a hoffem ddiolch i’r holl artistiaid a llawryddion sydd wedi bod yn rhan o’r cynhyrchiad a’r holl gynulleidfaoedd sydd wedi dod i wylio. 

Mae Fy Enw i yw Rachel Corrie yn ddarn bwerus o theatr sy’n rhoi llais i feddyliau, breuddwydion, a brwydrau merch ifanc o America a gafodd ei lladd gan fyddin Israel yn 2003. Drama sy’n ein gwahodd i brofi ei hymrwymiad angerddol i gyfiawnder a’i thosturi dwfn tuag at bobl Gaza.

Dros ddau ddegawd ers marwolaeth Rachel mae’r negeseuon mor berthnasol ag erioed, ac yn anffodus mae’n codi cwestiynau dwys, gan gynnwys a oes unrhyw beth wedi newid er gwell yn y rhanbarth yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf?

Ein gobaith ydi bod cyflwyno’r ddrama wedi codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pellach o’r sefyllfa erchyll ym Mhalesteina a’r dioddefaint dyngarol trychinebus sy’n parhau i fwy na ddwy filiwn o bobl yn Gaza (eu hanner yn blant).

Fel cwmni, roeddem wedi cynnig tocynnau rhad i’r perfformiadau er mwyn i gynulleidfaoedd allu gyfrannu at elusennau sy’n cefnogi’r rheiny sydd wedi’u heffeithio gan y rhyfel yn Gaza, os ydyn nhw’n dymuno. 

Ry’n ni’n gobeithio bod cynulleidfaoedd Caernarfon, Caerdydd a Chaerfyrddin wedi cysylltu â galwad Rachel am heddwch a dealltwriaeth, a chael eu hysbrydoli i fyfyrio ar sut y gallwn i gyd gyfrannu at fyd mwy cyfiawn a theg. 

Yn ystod taith Fy Enw i yw Rachel Corrie, ry’n ni hefyd wedi lansio prosiect newydd gyda Theatr ASHTAR yn Ramallah sy’n dod â phobl ifanc Cymru a Phalesteina at ei gilydd i gyfnewid diwylliant, meithrin dealltwriaeth, ac i gyd-greu wrth rannu syniadau a straeon. Trwy weithdai, perfformiadau digidol ac ymgysylltu â’r gymuned, bydd y prosiect yn archwilio themâu cartref, heddwch a grym mynegiant artistig a chymuned. Byddwn yn rhannu mwy am y prosiect hwn yn fuan.