Yn dilyn ei buddugoliaeth yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd eleni, ry’n ni’n falch iawn o groesawu Elain Roberts i Theatr Gen fel Dramodydd Preswyl Ifanc nesaf y cwmni ar gyfer 2023/24.
Yn wreiddiol o Bentre’r Bryn ger Cei Newydd, mae Elain bellach yn astudio Ffrangeg a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Bryste.
Elain yw’r drydydd dramodydd i gamu fewn i'r rôl o fewn y cwmni, yn dilyn Rhiannon Mair Williams ac Osian Davies.
Roedd y ddrama fuddugol, I/II?, wedi ei osod mewn ciwbicl toiled wrth i'r prif gymeriad aros am ganlyniad prawf beichiogrwydd – a dyma’r ddrama gyntaf i Elain ysgrifennu erioed.
Dywedodd ein Cyfarwyddwr Artistig Steffan Donnelly;
''Roedd hi’n bleser mawr beirniadu’r Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Roedd y ddrama fuddugol I/II? yn mynd a ni ar siwrne wych. Braint oedd clywed cyfrinachau a theimladau’r prif gymeriad drwy sgwennu bywiog, cynnil, yn defnyddio iaith lafar arbennig. Rydyn ni’n edrych ‘mlaen i groesawu Elain fel Dramodydd Preswyl Ifanc newydd Theatr Gen ar gyfer y flwyddyn nesaf.''
Llongyfarchiadau Elain – ry’n ni’n edrych ymlaen at gael Elain fel Dramodydd Preswyl Ifanc ar gyfer y flwyddyn nesaf. Cadwch olwg am fwy gan Elain yn fuan.
Newyddion + blogiau diweddaraf
-
17/07/2024 NewyddionDawns y Ceirw: Casi Wyn yn arwain gwledd o stori, dawns a cherddoriaeth
Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn llawn cyffro i gydweithio y gaeaf hwn.
-
08/07/2024 NewyddionDrama, chwerthin, a sgwrsio gyda Siân Phillips: Mis tan Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024
Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn brysur agosáu, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi rhaglen llawn o ddrama, gomedi ac artistiaid arbennig ar y Maes eleni.